Skip to content

Strategaeth y Gymraeg 2012 i 2017 - Iaith fyw: iaith byw

Dolenni perthnasol

Mae’r cynllun gweithredu yma yn esbonio sut byddwn yn gweithredu’r cynigion a amlinellir yn y strategaeth ar gyfer y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw, yn ystod 2013 i 2014
Mae’r ddogfen hon yn nodi Strategaeth a Rhaglen Weithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae’r papur hwn yn cyflwyno trosolwg uwch ynglŷn â thystiolaeth gyfredol sy’n berthnasol i’r defnydd a wneir o’r Gymraeg a’r chwe phrif thema yn y Strategaeth ar gyfer y Gymraeg.
Mae’r dudalen hon yn nodi prif ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae'r adroddiad cynnig sylfaen ar gyfer ymchwil, casglu data a dadansoddiadau i asesu traweffaith a deilliannau’r strategaeth.

Dyma strategaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Fe'i paratowyd yn unol ag Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Mae'r strategaeth yn anelu at weld cynnydd yn nifer y bobl sy’n gallu siarad yr iaith, ac sy'n ei defnyddio.

Mae'r strategaeth hefyd am weld:

  • rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg
  • cynnydd yn hyder pobl a'u rhuglder yn yr iaith
  • mwy o ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg fel rhan o'n treftadaeth genedlaethol a hefyd fel sgìl defnyddiol mewn bywyd modern
  • sefydlogi sefyllfa'r Gymraeg o fewn ein cymunedau
  • lle amlwg i'r Gymraeg ar draws y cyfryngau digidol.

Er mwyn gwireddu hyn, mae'r strategaeth yn adnabod chwe maes strategol:

  • annog a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn teuluoedd
  • cynyddu'r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith
  • cryfhau safle'r Gymraeg o fewn y gymuned
  • cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle
  • cynyddu a gwella gwasanaethau Cymraeg i ddinasyddion
  • cryfhau'r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg digidol.

Mae'r strategaeth hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru fel elfen hanfodol wrth greu siaradwyr Cymraeg y dyfodol - ar y cyd ag annog y defnydd o'r iaith o fewn teuluoedd.

Mae'r strategaeth yn rhoi pwyslais arbennig ar greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg, boed iddyn nhw eu cael yn y cartref neu drwy'r system addysg, ym mhob agwedd ar fywyd pob dydd.    

Mae hon yn strategaeth ar gyfer pum mlynedd, o 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2017, ac yn disodli Iaith Pawb a gyhoeddwyd yn 2003.

Mae modd lawrlwytho'r ddogfen drwy'r tudalen cyhoeddiadau.