Skip to content

Cymraeg, Technoleg & Cyfryngau Digidol

Dolenni perthnasol

Agorodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, Seminar y Gymraeg, Technoleg a'r Cyfryngau Digidol gyda araith yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y Gymraeg a Technoleg.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cynhaliwyd Seminar yn Gaerdydd 21 Mehefin 2012 yn edrych ar y Gymraeg, Technoleg a'r Cyfryngau Digidol.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i drafod sut y gellir defnyddio technoleg i hyrwyddo'r Gymraeg a sicrhau bod mwy o ddeunydd digidol ar gael yn yr iaith.

Agorwyd y seminar gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC a ddywedodd:

"Rhaid i ddatblygiadau newydd yn y cyfryngau a thechnoleg, a chynnwys digidol, fod ar gael yn y Gymraeg os ydym am sicrhau bod yr iaith yn cael ei hystyried yn iaith fyw a modern,"

Mae'r cyflwyniadau a wnaed yn ystod y seminar ar gael i wylio trwy glicio ar y ddolen "Fideos" ar ochr dde'r dudalen.

Mae'r sleidiau ar gael i'w lawrlwytho isod.

Defnyddiwch hashtag #TechCY os ydych yn dymuno cyfranu at y drafodaeth ar Twitter ynglŷn a'r Gymraeg a Technoleg.