Skip to content

Grantiau i Hybu’r Gymraeg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Llywodraeth Cymru am dderbyn ceisiadau am grantiau ar gyfer prosiectau sy’n hybu’r Gymraeg ar gyfer 2013/14.

Bydd y grantiau yn cefnogi amcanion strategaeth iaith Gymraeg Gweinidogion Cymru ar gyfer 2012-17 - Iaith fyw: iaith byw.

Mae'r strategaeth yn anelu at weld cynnydd yn nifer y bobl sy’n gallu siarad yr iaith, ac sy'n ei defnyddio. Prif ffocws Cynllun Grantiau Llywodraeth Cymru i Hybu’r Gymraeg yw ariannu gweithgareddau sy’n arwain at:

  • Annog a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn teuluoed.
  • Cynyddu'r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith.
  • Cryfhau safle'r Gymraeg o fewn y gymuned.

Gallwn hefyd ystyried ceisiadau am weithgareddau o dan feysydd eraill y strategaeth, sef:

  • Cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle
  • Cynyddu a gwella gwasanaethau Cymraeg i ddinasyddion
  • Cryfhau'r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg ddigidol.

Croesawir ceisiadau gan gyrff o’r trydydd sector, y sector breifat a’r sector gyhoeddus ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn ddarostyngedig i’w Cynlluniau Iaith Gymraeg statudol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Medi 2012.