Skip to content

Gorchmynion Statudol

Dolenni perthnasol

Ymgynghonad yn cynnig diwygio tair set o reoliadau presennol er mwyn symleiddio'r broses o hysbysebu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.
Mae Offerynnau Statudol Lleol yn cynnwys Gorchmynion Ffyrdd, gorchmynion traffig dros dro a pharhaol. O'r dudalen hon gallwch gael gafael ar y dogfennau diweddaraf a'u llwytho i'ch cyfrifiadur.
Mae'r Offerynnau Anstatudol y mae Gweinidogion Cymru yn eu cyhoeddi yn cynnwys codau ymarfer a chanllawiau.
Mae Offerynnau Statudol Lleol Drafft yn ffurfiau ar is-ddeddfwriaeth sy'n cael ei gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy gyfrwng Offerynnau Statudol lleol eu natur.
Mae Offerynnau Anstatudol Drafft hefyd yn ffurfiau ar is-ddeddfwriaeth sy'n cael eu gwneud gan y Cynulliad, nid oes gofyn eu gwneud drwy gyfrwg Offeryn Statudol.



Rydym yn gyfrifol am gynhyrchu Gorchmynion statudol a gweithdrefnau statudol perthnasol sy'n anghenrheidiol i wella a chynnal a chadw'r rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd a chau priffyrdd ar gyfer datblygiadau lleol.

Mae angen awdurdod cyfreithiol i wneud gwaith o'r fath ac mae modd defnyddio'r Gorchmynion i wneud cais a darparu awdurdod cyfreithiol.

Cynlluniau Cefnffyrdd/Traffyrdd - Mae'r rhain yn cynnwys drafftio a chyhoeddi Gorchmynion statudol ar gyfer Llinell, Ffyrdd Ymyl a Phrynu Gorfodol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980/Deddf Caffael Tir 1981.

Gorchmynion Llinell - Mae'r rhain yn sefydlu llwybr y ffordd newydd.

Gorchmynion Ffyrdd Ymyl - Mae'r rhain yn ymdrin â materion ategol lleol yn ymwneud â phriffyrdd/mynedfeydd fel cau a darparu priffyrdd/mynedfeydd newydd ac unrhyw welliannau sy'n angenrheidiol ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd lleol o ganlyniad i'r ffordd newydd.

Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPO) - Yn ofynnol er mwyn cael y tir a'r hawliau angenrheidiol mewn perthynas â Gorchmyn Llinell ac Ochr a/neu Orchymyn Ffyrdd Ymyl neu gynlluniau cynnal a chadw a gwella.

Gellir bwrw golwg ar y Gorchmynion Diweddaraf a gyhoeddwyd ar ffurf drafft neu a gyflwynwyd ar y dudalen ar deddfwriaeth.

Mae modd anghytuno ag unrhyw Orchymyn Drafft ac os na chaiff y mater ei ddatrys, gall arwain at Ymchwiliad Cyhoeddus.

Ymchwiliadau Cyhoeddus i gynigion ffyrdd - Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Ymchwiliadau Cyhoeddus i gynigion ffyrdd - Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

10/02/07
Dylai'r llyfryn hwn eich helpu os ydych yn ystyried cyflwyno’ch barn neu gael eich cynrychioli mewn ymchwiliad cyhoeddus sy’n ymwneud â chynigion ffyrdd.
 
Gorchmynion Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Gorchmynion Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

09/06/06
Mae'r Gorchmynion hyn yn cael eu cynhyrchu ar gais gan y datblygwr/awdurdod lleol ac yn bennaf, mae eu hangen i gau pob math o briffyrdd lleol i alluogi gwaith datblygu i fynd yn ei flaen.
 

Gorchmynion ar Gyfer Rheoleiddio Traffig

09/06/06
Mae'r Gorchmynion hyn yn cael eu cynhyrchu ar gais gan y datblygwr/awdurdod lleol ac yn bennaf, mae eu hangen i gau pob math o briffyrdd lleol i alluogi gwaith datblygu i fynd yn ei flaen.