Skip to content

Gorllewin yn y de

Gospel Pass. Hay Bluff © Crown copyright (2010) Croeso Cymru
Mae'r rhan helaeth o deithio yn system drafnidiaeth y de yn digwydd rhwng Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd a'r cyffiniau.



Yr A465 Blaenau'r Cymoedd a'r M4 rhwng Casnewydd ac Abertawe yw'n coridorau allweddol ac mae'r pyrth rhyngwladol i economi Cymru yn cynnwys Maes Awyr Caerdydd a phorthladdoedd Casnewydd, Caerdydd, Port Talbot, Abertawe, Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun.

Traffig i'r gwaith sy'n rhoi'r pwysau mwyaf ar ein rhwydwaith, yn enwedig yn ystod oriau brig ar yr M4 heibio Chasnewydd a ger cyffyrdd Caerdydd ac Abertawe.

Mae'r A465 Blaenau'r Cymoedd yn cysylltu'r Gogledd a'r cymoedd gogleddol, gan gefnogi adfywio a darparu cysylltiadau rhwng y gorllewin a chanolbarth Lloegr. Caiff y gwaith o ddeuoli'r ffordd hon ei gwblhau erbyn 2020.

Hefyd yr A40 a'r A477 yw'r prif gysylltiadau â'r de-orllewin, gan gysylltu â Doc Penfro ac Abergwaun. Mae tagfeydd yn debygol ar y ffyrdd hyn, yn enwedig yn ystod cyfnod prysur yng nghanol y gwyliau haf. Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes i fynd i'r afael â'r problemau ar yr A40 rhwng Penblewin a Slebets.

Byddwn yn:

    • Cyflwyno systemau terfyn cyfl ymder newidiol i rannau o’r rhwydwaith er mwyn rheoli tagfeydd a gwella diogelwch, gan gychwyn yn 2010.
    • Cwblhau’r gwaith deuoli ar yr A465 ym Mlaenau’r Cymoedd o Fryn-mawr i Dredegar, gan ddechrau o Gilwern i Fryn-mawr, erbyn 2014, ac ar rannau eraill o Dowlais Top i’r A470, ac o’r A470 i Hirwaun, erbyn 2020.
  • Cychwyn rhaglen o waith i’r coridor ffyrdd dwyrain-gorllewin er mwyn gwella dibynadwyedd, amserau siwrneiau, diogelwch a materion amgylcheddol lleol, ar:
    • A40 The Kell, erbyn 2011;
    • Yr A477 o Sanclêr i Ros-goch, erbyn 2014; ac
    • Ar yr A40 o Landdewi Felffre i Benblewin.
    • Cyfl awni astudiaeth lwybr ar yr A4042 rhwng Pont-y-pwl a’r Fenni.
    • Cyfl wyno gwasanaeth bysiau cyfl ym, o ansawdd uchel rhwng Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd, ac yn gwella diogelwch ar yr A4226 (Y Lôn Pum
      Milltir).

A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd) Cynllun deuoli'r

A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd) - Cynllun Deuoli

20/07/12
Cefnffordd yr A465 sy'n cysylltu Castell-nedd a'r Fenni yw 'Ffordd Blaenau'r Cymoedd' ac mae'n rhan o'r coridor trafnidiaeth strategol ar draws De Cymru.
 
Rhaglen Gwella Coridor Trafnidiaeth yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach

Rhaglen Gwella Coridor Trafnidiaeth yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach

09/05/12
Mae Traffordd yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach yn methu'n llwyr â chyrraedd safonau dylunio traffyrdd modern, mewn perthynas â chynhwysedd a diogelwch.
 

Yr A477 St Cler i Red Roses

23/02/12
Mae’r A477 yn cysylltu gweddill Ewrop a'r Deyrnas Unedig â Gweriniaeth Iwerddon.
 

A40 Llanddewi Felffre i Penblewin

24/01/11
Diben y cynllun yw lleihau'r effaith y mae traffig y gefnffordd yn ei chael ar bentref Llanddewi Felffre.
 

Gwella’r Mynediad i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd

05/08/10
Yn 2006, comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru astudiaeth drafnidiaeth i roi sylw i’r problemau yng Nghroes Cwrlwys a gwella’r mynediad i Faes Awyr Caerdydd.
 

Y Kell A40

04/08/10
Mae'r Kell wedi’w leoli ar rhan o'r A40 sydd ffurfio rhan o'r ffordd coridor gogledd-de rhwng Dinbych y Pysgod, 17km i'r gogledd a Hwlffordd, 7.5km i'r de, wrth ymyl Treffgarne a Spittal.
 

Gwelliant A40 Penblewin i Barc Slebets

12/02/10
Bydd y cynllun Gwelliant Cefnffordd yn symud y traffig o bentref Robeston Wathen.