Skip to content

Masnachfraint Rheilffordd Cymru a'r Gororau

Y Gerallt Gymro
Cwmni Trenau Arriva Cymru sy'n gweithredu masnachfraint Cymru a'r Gororau. Dyfarnwyd y contract iddynt yn 2003 ac mae'n rhedeg am 15mlynedd.

Ar 1 Ebrill 2006, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb dros Fasnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau i Lywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghaerdydd gan yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain.

Fel cyd-lofnodwr y Fasnachfraint gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, trwy Trafnidiaeth, rhan o Llywodraeth Leol a Cymunedau, yn gyfrifol am reoli cyllid a pherfformiad y gwasanaethau i gwsmeriaid sy'n cael eu cynnwys yn y cytundeb ac unrhyw ychwanegiadau iddo. 

Bydd yr ymrwymiad uchel ei broffil hwn yn ffurfio rhan fawr o'r broses o yrru agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru i baratoi a gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn ei blaen.  Mae ganddi gyllideb blynyddol ar hyn o bryd at y diben hwn o ryw £170 miliwn.

Yng Nghytundeb y Fasnachfraint gyda chwmni Trenau Arriva Cymru mae manylion ar bob agwedd o'r hyn a ddisgwylir ganddynt o ran rhedeg y gwasanaeth. 

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu Tîm Rheoli'r Fasnachfraint i sicrhau bod cwmni Trenau Arriva Cymru, hyd orau eu gallu, yn bodloni'r disgwyliadau a amlinellir yn y Cytundeb.  Yn y cytundeb, mae targedau blynyddol ar gyfer amrywiaeth o ffactorau sy'n amrywio o brydlondeb i gofnodi gohiriadau, yn ogystal â threfn ar gyfer cymell Arriva i wella'i berfformiad.

Network Rail sy'n gyfrifol am gynnal a gweithredu'r rheilffyrdd mewn cyflwr priodol.  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio mewn partneriaeth â Network Rail i ariannu gwelliannau i seilwaith y rheilffyrdd.