Skip to content

Gwefannau defnyddiol

Dolenni perthnasol

Traveline Cymru yw eich siop un stop i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynghylch teithio ledled Cymru.

Yma cewch hyd i fanylion gwahanol wefannau defnyddiol.

Yr Adran Drafnidiaeth

Yr Adran Drafnidiaeth yw'r adran o fewn llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am rwydwaith trafnidiaeth Lloegr a rhai materion trafnidiaeth yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon nad ydynt wedi'u datganoli.

Ewch i'w gwefan yn www.dft.gov.uk/cymraeg (dolen allanol)

Trenau Arriva Cymru

Mae Trenau Arriva Cymru yn rhan o Grŵp Arriva, sy'n perthyn i Deutsche Bahn. Mae Trenau Arriva Cymru yn un o 27 o gwmnïau rheilffyrdd sy'n gweithredu yn y DU, a hwy sy'n cynnig gwasanaethau rheilffyrdd yn ardal Cymru a'r Gororau. Rheolir ei fasnachfraint gan Lywodraeth y Cynulliad.

Ewch i'w wefan yn www.arrivatrainswales.co.uk (Saesneg yn unig - dolen allanol)

Network Rail

Network Rail sy'n berchen ar seilwaith rheilffyrdd Prydain ac sy'n ei weithredu. Mae'n cynnal ac yn datblygu rheilffyrdd Prydain, ei systemau signalau, ei phontydd rheilffordd, ei thwnelau, ei chroesfannau, ei thraphontydd a'i 18 prif orsaf. 

Ewch i'w wefan yn www.networkrail.co.uk (Saesneg yn unig - dolen allanol)

Passenger Focus 

Corff cyhoeddus annibynnol yw Passenger Focus a sefydlwyd gan y Llywodraeth er mwyn diogelu buddiannau teithwyr sy'n cael eu cludo ar reilffyrdd Prydain.

Ewch i'w wefan yn www.passengerfocus.org.uk (Saesneg yn unig - dolen allanol)

Virgin Trains

Mae Virgin Trains yn gweithredu trenau rhwng Euston Llundain a Chaergybi drwy Crewe a Chaer ar brif linell Gogledd Cymru. Rheolir ei fasnachfraint gan yr Adran Drafnidiaeth.

Ewch i'w gwefan yn www.virgintrains.co.uk (Saesneg yn unig - dolen allanol)

First Great Western

Mae First Great Western yn gweithredu trenau o Paddington Llundain i Abertawe a Chaerfyrddin ac yn gweithredu gwasanaethau ar hyd llwybr Harbwr Portsmouth i Gaerdydd drwy Bristol Temple Meads. Rheolir ei fasnachfraint gan yr Adran Drafnidiaeth.

Ewch i'w gwefan yn www.firstgreatwestern.co.uk (Saesneg yn unig - dolen allanol)

Trenau CrossCountry

Mae Trenau CrossCountry yn gweithredu trenau o orsaf ganolog Caerdydd i Nottingham, gan alw yng Nghas-gwent, Lydney, Cheltenham Spa a Birmingham. Rheolir ei fasnachfraint gan yr Adran Drafnidiaeth.

Ewch i'w gwefan yn www.crosscountrytrains.co.uk (Saesneg yn unig - dolen allanol)