Skip to content

Trydaneiddio

Dolenni perthnasol

Croesawodd Carwyn Jones a Carl Sargeant y cyhoeddiad y bydd Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a rhwydwaith Rheilffordd y Cymoedd yn cael eu trydaneiddio.
Mae lleihau tlodi, yn arbennig tlodi cyson, yn rhai o'n hardaloedd a'n cymunedau tlotaf yn ganolog i agenda polisi Llywodraeth Cymru.

Mae trydaneiddio’r rheilffyrdd yn gam cyntaf tuag at gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau seilwaith rheilffyrdd modern ledled Cymru.

Ar 16 Gorffennaf cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer Network Rail ar gyfer y cyfnod buddsoddi nesaf (2014-2019). Roedd y cyhoeddiad hwn yn cynnwys trydaneiddio Prif Linell y Great Western i Abertawe a Rhwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd.

Mae rhwydwaith rheilffyrdd sydd wedi'i drydaneiddio'n ffordd fwy diwastraff o weithredu a chynnal a chadw'r rheilffyrdd, a bydd yn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Bydd teithwyr yn teithio mewn ffordd sy'n fwy cynaliadwy'n amgylcheddol a bydd y siwrneiau'n gyflymach ac yn dawelach gydag arbedion o hyd at 20% o'i gymharu ag amserlenni presennol.

Nid yw buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli. Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth a Network Rail i gyflawni'r prosiectau pwysig hyn.