Skip to content

John Ablitt - Aelodau'r Pwyllgor

Cafodd John ei fagu ar fferm yng Ngheredigion. Mae’n siarad Cymraeg ac mae ganddo radd yn Hanes a chymhwyster addysgu o Brifysgol Aberystwyth.

Ar ôl gadael y Brifysgol, bu’n gweithio i Bwyllgor Tywysog Cymru yn y Gogledd ac yn y De, yn cefnogi prosiectau amgylcheddol gwirfoddol ac yn trefnu Gwobrau Tywysog Cymru. Parhaodd i weithio gyda’r Pwyllgor fel gwirfoddolwr am lawer o flynyddoedd ar ôl iddo symud i weithio yn yr hen Gyngor Sir Clwyd, a hynny mewn nifer o swyddi amgylcheddol, gan ddod yn y pen draw yn Brif Swyddog Cefn Gwlad.

Ar yr un pryd, roedd yn weithgar iawn fel gwirfoddolwr yn Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain, gan ddod yn Gadeirydd Cymru, ac wedyn yn Is-gadeirydd, ac ar ôl hynny yn Gadeirydd Prydain ac eithrio’r Alban. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod o Gyngor Llywodraethu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ym 1992, ymunodd John â Pharc Cenedlaethol Eryri fel Swyddog Parc Cenedlaethol Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb dros hamdden, cyfathrebu ac addysg. Fel Pennaeth Hamdden a Chyfathrebu, ac yn ddiweddarach yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu, bu John yn gyfrifol am nifer o brosiectau mynediad pwysig, gan gynnwys Sherpa’r Wyddfa, Menter Goriad Gwyrdd a Phartneriaeth Llwybrau’r Ucheldir, ac am drafnidiaeth gynaliadwy ledled y Parc Cenedlaethol.

Ef hefyd oedd swyddog arweiniol yr Awdurdod o ran adeiladu ei swyddfeydd newydd ym Mhenrhyndeudraeth ac yn ddiweddarach yr adeilad newydd ar gopa’r Wyddfa, sef Hafod Eryri. Yn ddiweddar mae John wedi ennill diploma mewn Arweinyddiaeth Strategol. Yn 2011, penderfynodd ymddeol yn gynnar a’i fwriad yw ailhyfforddi fel tywysydd teithio Bathodyn Glas. Mae’n byw yng Nghaernarfon.