Skip to content

Graham Walter - Aelodau'r Pwyllgor

Ymunodd Graham â Traveline Cymru yn 2008, ar ôl treulio ugain mlynedd yn y diwydiant gwerthu ceir. Bu’n gweithio i gwmni cyfyngedig cyhoeddus mawr a chwmnïau preifat llai, gan arbenigo mewn perfformiad busnes, gwella prosesau gwerthu a boddhad cwsmeriaid.

Graham Walter

Gan ganolbwyntio ar anghenion y cwsmeriaid mae’r busnes wedi arallgyfeirio i ddulliau newydd o ddosbarthu gwybodaeth sydd wedi arwain at dwf parhaus mewn defnydd, mwy o foddhad i’r cwsmer a chostau dosbarthu is.

Mae’r amcanion presennol yn cynnwys gwella effeithlonrwydd busnes a datblygu gwasanaethau cost-effeithiol o ansawdd uchel i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a pholisi ehangach Llywodraeth Cymru.

Symudodd Graham i Gymru yn 2004, ac mae’n byw ym Mhorthcawl.