Skip to content

Greg Pycroft - Aelodau'r Pwyllgor

Mae Greg Pycroft yn byw yn Grangetown, Caerdydd. Mae’n gweithio fel swyddog polisi i Barciau Cenedlaethol Cymru, sef partneriaeth rhwng 3 Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru.

Greg Pycroft

 

Roedd Greg yn arfer gweithio i Bwyllgor Teithwyr Rheilffyrdd Cymru, a chyn hynny bu’n gweithio fel ymchwilydd gwleidyddol i Carl Sargeant AC a Sandy Mewies AC.

Graddiodd o Brifysgol Caerdydd yn 2000 gyda gradd yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac mae wedi cwblhau MSc yn ddiweddar mewn Cynaladwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol, hefyd ym Mhrifysgol Caerdydd.