Skip to content

Dan Butler - Aelodau'r Pwyllgor

Magwyd Dan yn ne-ddwyrain Cymru ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Graddiodd o Brifysgol Sheffield yn 2008.

Dan ButlerPrif ddiddordebau proffesiynol Dan yw gwaith ieuenctid a chymunedol. Ar ôl gadael y brifysgol, bu’n gweithio i Lleisiau mewn Gofal Cymru lle’r oedd yn gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc sy’n derbyn gofal ddylanwadu ar bolisi yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Mae Dan yn aelod o Engineers Without Borders UK, a bu’n aelod o’r pwyllgor gwaith cenedlaethol.

Mae’n un o gyfarwyddwyr gwreiddiol A Leap, sefydliad dielw sy’n cyflwyno prosiectau i gynorthwyo pobl ifanc i ymgysylltu ag addysg, gwaith a bywyd eu cymunedau, ac sy’n cynnig hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghori i sefydliadau. Mae Dan wedi arwain y gwaith o ddatblygu sawl prosiect ledled Cymru ac yn ehangach, gan gynnwys meithrin cysylltiadau rhwng pobl ifanc yng Nghymru ac Affrica Is-Sahara.

Mae Dan yn dibynnu'n llwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn ei hystyried yn hollbwysig i fywyd cymdeithasol ac economaidd cymunedau Cymru.