Skip to content

Gwasanaethau awyr

Sied awyrennau
Mae meysydd awyr a gwasanaethau awyr yn rhan bwysig o ddatblygiad economi Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu isadeiledd economaidd cyffrous sy’n edrych tua’r dyfodol ac yn rhoi cefnogaeth i’n sectorau hedfan ac awyrofod.

Nid yw Polisi Hedfan wedi cael ei ddatganoli. Rydym yn cydweithio â’r Adran Drafnidiaeth (DfT) ar faterion sy’n ymwneud â pholisi hedfan o ran Cymru.Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru)  2006 (Paragraff 11) yn rhoi pwerau i’r Cynulliad roi cymorth ariannol i wasanaethau hedfan yng Nghymru.