Skip to content

Trafnidiaeth Integredig

Dolenni perthnasol

Cynnigion ar gyfer cyflawni rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y dyfodol.
Nod Cynlluniau Teithio Personol yw lleihau'r defnydd o'r car, gan ei gwneud yn bosibl teithio ar droed, ar y beic, ar y bws, ar y trên neu rannu car.
Mae'r ddogfen Dewisiadau Craffach yn cyfeirio at yr amrywiaeth o ddulliau a mentrau sy'n lleihau'r effeithiau negyddol teithio mae teithio yn eu cael dagfeydd traffig, yr amgylchedd ac iechyd.

Gall effaith trafnidiaeth y ffyrdd ar yr amgylchedd gael ei lleihaudrwy gyflwyno cerbydau sy'n well ac yn lanach a thrwy weithredu ileihau'r cynnydd yn y traffig.

Mae dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 121 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 i hyrwyddo datblygu cynaliadwy wrth arfer ei swyddogaethau, hynny yw, ym mhopeth y mae’n ei wneud.

Yn unol â Chynllun Datblygu Cynaliadwy Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 'Dechrau Byw'n Wahanol', rydym wedi ymrwymo i barchu'r cyfyngiadau ar yr amgylchedd fel na fydd ein hadnoddau yn cael eu defnyddio i'r graddau na ellir mo'u hadfer ac fel na fydd ein hamgylchedd yn cael ei ddinistrio'n llwyr.

Golyga hyn, er enghraifft, gyfrannu at ddiogelu hinsawdd y blaned, diogelu a gwella bioamrywiaeth, lleihau allyriadau niweidiol a hyrwyddo defnyddio adnoddau naturiol mewn dull sy'n gynaliadwy.

Gall effaith trafnidiaeth y ffyrdd ar yr amgylchedd gael ei lleihau drwy gyflwyno cerbydau sy'n well ac yn lanach a thrwy weithredu i leihau'r cynnydd yn y traffig. Rydym wedi ymrywmo i gyflwyno system cludiant cyhoeddus a gweinyddu grantiau i gefnogi'r amcanion hyn gan weithio mewn partneriaeth gyda darparwyr trafnidiaeth a rhanddeiliaid cysylltiedig eraill.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein polisïau trafnidiaeth gynaliadwy o'r dudalen hon.