Skip to content

Trafnidiaeth

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Trafnidiaeth

Dau feic yn pwyso ar ei gilydd ar draeth tywod

Mae pawb yn defnyddio rhyw fath ar drafnidiaeth yn eu bywydau.

Boed yn drafnidiaeth gyhoeddus, teithio mewn car, awyren neu drên rhaid cynllunio, adeiladu, cynnal a chadw a gwella'r gwasanaethau hyn.

Mae creu system drafnidiaeth o'r radd flaenaf ar gyfer yr 21ain ganrif sy'n darparu cludiant fforddiadwy, sy'n garedig i'r amgylchedd ar ffyrdd, rheilffyrdd ac ar awyrennau i gael mynediad busnes i farchnadoedd, a theithio personol fel cymudo yn un o'n hymrwymiadau yn Cymru'n Un.

Rydyn ni'n gweithredu polisïau trafnidiaeth ac yn cyflawni rhaglenni buddsoddi mewn trafnidiaeth.  Mae'r rheini'n cynnwys:

  • rheoli, cynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru
  • rôl rheoli cleient Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a chyflawni prosiectau seilwaith rheilffyrdd
  • gweithredu amryw o fentrau a chynlluniau grant a ddyluniwyd i wella'r gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru.

Cewch yma wybodaeth am ffyrdd a rheilffyrdd, diogelwch ffyrdd, cerdded a beicio a thrafnidiaeth gynaliadwy a gallwch weld Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.


Y newyddion diweddaraf

Canllawiau newydd i weithredwyr cludiant roi’r Cod Teithio ar waith

Canllawiau newydd i weithredwyr cludiant roi’r Cod Teithio ar waith

22/12/09
Bydd y Cod yn dod i rym ddechrau’r tymor ysgol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Gwaith torri cerrig a thrwsio ffensys diogelwch ar yr A5 yn Hendre Arddwyfaen

18/12/09
Bydd gwaith diogelwch hanfodol ar yr A5 yn Hendre Arddwyfaen, i’r dwyrain o Gerrigydrudion, yn dechrau yn y flwyddyn newydd er mwyn trwsio ffensys a gwella aliniad y ffordd.

Dolenni perthnasol

Mae'r ddogfen hwn yn y Fframwaith Trafnidiaeth Cymru.
Cynllun pellgyrhaeddol i wella'r cynllun bathodyn glas ar gyfer parcio i bobl anabl
Gwybodaeth am y atal gyrru ar gyffuriau.
Mapiau yn dangos lleoliad anafusion traffig ar y ffordd ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.