Skip to content

Canolfannau Croeso

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth am holl gynlluniau graddio â sêr Croeso Cymru.
Mae gan holl eiddo Croeso Cymru sydd wedi’u graddio hawl i gael eu hyrwyddo am ddim trwy’r rhwydwaith o 65 o Ganolfannau Croeso yng Nghymru.  

Mae gan y Canolfannau Croeso gynllun archebu gwely - mae’n ffordd wych o ennill busnes ar y funud olaf.  Gan fod eich eiddo chi wedi cael ei raddio gan Groeso Cymru, gallwch gymryd rhan yn y cynllun.

 

Yna, gallwch fanteisio ar y canlynol:

  • Ymwelwyr yn archebu gwely ar y funud olaf
  • Ymwelwyr yn archebu gwely o flaen llaw
  • Llun a manylion eich llety yn cael ei arddangos ar banel gwybodaeth yn rhad ac am ddim
  • Eich eiddo yn cael ei gynnwys ar restri llety’r Canolfannau Croeso yn rhad ac am ddim

Beth yw’r cynllun?

Mae’r cynllun hwn yn gyfle gwych i chi werthu eich ystafelloedd – ar y funud olaf – trwy’r rhwydwaith o 65 o Ganolfannau Croeso Cymru a 600 o ganolfannau eraill ar hyd a lled y DU.  I ddod o hyd i’ch Canolfan Groeso agosaf, ewch i wefan defnyddwyr Croeso Cymru (dolen allanol).

 

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Gwasanaeth archebu gwely i ymwelwyr yw’r cynllun hwn.  Mae’r Canolfannau Croeso yn archebu gwely ar y funud olaf yn ogystal ag archebu gwely o flaen llaw ar ran ymwelwyr sy’n symud o le i le ac angen gwely mewn lleoliad arall.

 

Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud i fanteisio ar y cynllun hwn yw sicrhau eich bod yn cadw mewn cysylltiad â’ch Canolfan Groeso leol.  Trwy ddiweddaru a hysbysu’r staff ynghylch unrhyw ystafelloedd gwag sydd gennych, bydd y staff yn gallu rhoi eich manylion i’r ymwelwyr. 

 

Beth yw’r gost?

Bydd y Canolfannau Croeso yn gofyn i’r ymwelwyr dalu 10% o gyfanswm y bil am wely a brecwast neu arlwy hunanddarpar ac yna bydd yn rhaid i chi dynnu’r ffigur hwn oddi ar bil terfynol yr ymwelydd.

 

Er nad yw’r cynllun archebu gwely yn rhad ac am ddim, mae’n bendant yn werth yr arian.  Bydd eich Canolfan Groeso leol yn arddangos manylion eich eiddo, yn rhad ac am ddim.  Hefyd, caiff eich manylion eu cynnwys ar restri llety a ddefnyddir i ymateb i ymholiadau cyffredinol.