Skip to content

Byddwch yn rhan o'n arolygiadau

Dolenni perthnasol

Ydych chi’n weithredwr sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd neu a hoffech chi gymryd rhan? Gallech feindio'r holl gwybodaeth perthnasol ar gael i'w islwytho islaw.

Manylion ar sut allech cymryd rhan yn ein arolygion

Arolwg deiliadaeth

Galw holl ddarparwyr llety hunan-ddarpar ac â gwasanaeth! A hoffech gymryd rhan yn arolwg deiliadaeth Croeso Cymru a derbyn adroddiadau misol ar berfformiad eich busnes o fewn cyd-destun? Bydd cymryd rhan yn yr arolwg nid yn unig o fudd i'ch busnes, bydd hefyd yn rhoi hwb i'r sampl yn eich rhanbarth.

Rydym wedi bod yn cyflawni arolygon deiliadaeth yn y sectorau llety â gwasanaeth a hunan-ddarpar ers dros 20 mlynedd. Mae canlyniadau'r arolygon hyn yn darparu gwybodaeth werthfawr ar berfformiad a detholiad o ddata tueddiadau defnyddiol. Defnyddir y canlyniadau'n helaeth gan ein cydweithwyr marchnata ac ar gyfer paratoi cynlluniau busnes a datblygu adnoddau twristiaeth.

Mae arolygon deiliadaeth yn gwbl gyfrinachol. Byddwch yn derbyn adroddiad misol unigol cyfrinachol, i gymharu eich canlyniadau gydag eraill yn eich sector, rhanbarth a hefyd Cymru gyfan. Rydym hefyd yn cyhoeddi dadansoddiad manwl yn fisol ar sail Cymru gyfan a rhanbarthol. 

Os ydych yn ddarparwr llety ac yr hoffech gymryd rhan yn yr arolwg, cysylltwch â'r tîm ymchwil twristiaeth drwy anfon e-bost at tourismresearch@wales.gsi.gov.uk .

Gweler y ddolen ar y dde ar gyfer dogfennau i gymryd rhan.

Ceir copïau o'n crynodebau misol Cymru gyfan a rhanbarthol diweddaraf a chopïau o adroddiadau blynyddol blaenorol ar ein gwefan i ddiwydiant.

Ymweliadau ag atyniadau twristiaeth

Amcan yr arolwg blynyddol o ymweliadau ag atyniadau twristaidd yw i adrodd ar nifer ymwelwyr ag atyniadau ledled Cymru i'n helpu i nodi tueddiadau presennol. Os ydych yn ddarparwr atyniad ac yr hoffech gymryd rhan yn yr arolwg cysylltwch â'r tîm ymchwil twristiaethdrwy anfon e-bost at: tourismresearch@wales.gsi.gov.uk.

Mae'r adroddiad yn darparu astudiaeth gymharol ar weithrediad, cyllid, refeniw, marchnata ac adnoddau dynol yn ôl categori o atyniad, pedwar rhanbarth economaidd Cymru, a pholisi tâl mynediad.

Gallwch ddefnyddio canlyniadau'r arolwg hwn i feincnodi eich gweithrediad o fewn eich categori, o fewn eich rhanbarth a ledled y sector yn gyffredinol.