Skip to content

Canolfan ddelweddau

Menyw yn edrych trwy lluniau
Canolfan ddelweddau Croeso Cymru yw ein uned ganolog ar gyfer comisiynu delweddau a fideo.

Mae gennym ni dros 30,000 o ddelweddau ffotograffig eglur iawn ac oriau lawer o fideo manylder uwch yn benodol ar gyfer hyrwyddo Cymru.

Mae gan ein detholiad eang o luniau digidol ar gael ar gyfer cefnogi gwaith cysylltiadau cyhoeddus ac erthyglau yn y wasg sy'n hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru. Gall gweithredwyr llety graddedig Croeso Cymru gael mynediad i luniau ar gyfer eu deunydd hyrwyddo eu hunain.

Ewch i wefan Wales on View lle mae modd i chi lawrlwytho casgliadau o ddelweddau, neu rhoi cais i mewn am chwiliad pwrpasol.

Cysylltwch â ni ar requests@walesonview.com ar gyfer delweddau neu video@walesonview.com ar gyfer deunydd fideo., neu ffonio 0300 061 6103 neu 0300 061 6107.