Skip to content

Darparu isdeitlau mewn ystafelloedd gwestai

Gwybodaeth bwysig i westai a thai llety sy’n defnyddio systemau teledu rhyngweithiol.

Yn dilyn trosglwyddo i system deledu ddigidol yn 2010, bydd rhai gwestai wedi colli’r isdeitlau a’r disgrifiadau awdio ar eu gwasanaethau teledu rhyngweithiol.

 

Er mwyn iddynt allu defnyddio’r teledu yn eu hystafell, mae ar lawer o westeion sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw angen gwasanaeth isdeitlau.  Mae oddeutu un o bob saith o boblogaeth y DU yn dioddef o broblemau gyda’u clyw.  Bydd rhai pobl fyddar yn ystyried a oes isdeitlau ar gael iddynt wrth ddewis rhywle i aros.

 

Dywed Deddf Cydraddoldeb 2010 ei bod hi’n anghyfreithlon i ddarparwyr gwasanaethau drin pobl anabl yn llai ffafriol oherwydd eu hanabledd.  Mae’r Ddeddf hefyd yn dweud bod yn rhaid i chi feddwl am ffyrdd y gallwch wneud newidiadau rhesymol i’ch gwasanaethau a’ch cyfleusterau fel eu bod yn hygyrch i bobl fyddar a phobl anabl eraill.  Gall sicrhau bod isdeitlau ar gael ar setiau teledu yn ystafelloedd wely’r gwestai fod yn newid rhesymol.

 

Hefyd, mae isdeitlau’n ddefnyddiol i bobl sydd ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf neu bobl sydd am wylio’r teledu heb sain - rhieni gyda babanod sy’n cysgu yn yr ystafell er enghraifft. 

 

Sicrhewch fod y peiriannydd sy’n diweddaru’ch system deledu yn gwybod eich bod am ddarparu isdeitlau i’ch gwesteion.  Gofynnwch pa opsiynau sydd ar gael ar gyfer eich system.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (dolen allanol).