Skip to content

Newidiadau i’r Cynllun Graddio Llety Hunanddarpar

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwybodaeth am newidiadau sydd ar y gweill i’r cynllun graddio llety hunanddarpar o Ebrill 2012.

Mae’r cynllun graddio safonau cyffredin ar gyfer llety hunanddarpar wedi bod ar waith yng Nghymru er 2007. Cynhelir ymchwil gan Croeso Cymru a’r partneriaid safonau cyffredin eraill (yn annibynnol ac ar y cyd) er mwyn asesu effaith cysoni’r graddio. Mae’r ymchwil hon hefyd yn ein helpu i ddeall sut dylid datblygu’r cynlluniau ymhellach er mwyn diwallu anghenion y defnyddwyr a’r diwydiant.

Mae’r partneriaid wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd. Yn dilyn trafodaethau gyda Chymdeithas Gweithredwyr Hunanddarpar Cymru a Chymdeithas Asiantaethau Cymru byddwn yn gweithredu’r newidiadau a nodir yn y ddogfen isod. Ni fyddwn yn ceisio gweithredu’r holl newidiadau a drafodwyd; yn hytrach, awgrymwn i’r gweithredwyr weithio tuag at senario arferion gorau.

Bydd unrhyw asesiadau newydd a roddir ar waith o Ebrill 2012 yn cael eu cynnal yn unol â’r meini prawf diwygiedig. Er mwyn cadw eu gradd sêr cyfredol, bydd rhaid i fusnesau hunanddarpar presennol gwblhau unrhyw newidiadau angenrheidiol erbyn mis Mawrth 2014.

Os ydych yn tybio y gallech ennill gradd uwch oherwydd y newidiadau yn y meini prawf, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â ni ar 0845 010 8020 neu drwy e-bostio quality.tourism@wales.gsi.gov.uk .