Skip to content

Cwsmer cudd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae ein gwasanaeth cwsmer cudd yn rhoi golwg newydd ichi ar eich busnes i'ch helpu i fonitro perfformiad presennol a'i wella.

Mae gwasanaeth adolygu annibynnol y cwsmer cudd ar gael i westai, llety gwesteion a bwytai sydd ag ystafelloedd sy'n cymryd rhan yng nghynllun graddio Croeso Cymru ar hyn o bryd.

Mae'r gwasanaeth hwn yn costio rhwng £110 a £360 yr ymweliad, yn dibynnu ar nifer yr ymweliadau y flwyddyn a chost cinio, gwely a brecwast ar y gyfradd safonol. Bydd un o'n haseswyr hyfforddedig yn aros yn anhysbys dros nos yn eich gwesty i brofi ac arsylwi ar lefel y gwasanaeth a'r cyfleusterau sydd ar gael.

Byddwn yn darparu adborth llafar ac ysgrifenedig ar agweddau megis:

  • Trefniadau archebu a chyrraedd
  • Cynnal a chadw
  • Glendid a moethusrwydd yr ystafelloedd gwely a'r mannau cyhoeddus
  • Ansawdd y bwyd a'r ddiod a ddarperir
  • Cwrteisi'r staff ac ansawdd y gwasanaeth
  • Safon glendid a chynnal a chadw
  • Cwrteisi'r staff wrth oruchwylio ymadawiad y gwestai.

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, lawrlwythwch y ddogfen isod.