Skip to content

Arwyddion brown a gwyn

Manylion ein meini prawf i gael cefnogaeth ar gyfer arwyddion brown a gwyn i ymwelwyr.

Mae gennym feini prawf penodol i gael cefnogaeth ar gyfer ceisiadau am arwyddion brown a gwyn.  

I fod yn gymwys i gael cefnogaeth Croeso Cymru fel rhan o’ch cais am arwydd, rhaid i chi:

  • Fod yn rhan o gynllun sicrwydd safon perthnasol ar hyn o bryd (neu ymuno a phrofi aelodaeth gyfredol o’ch Cymdeithas Dwristiaeth leol os nad oes cynllun perthnasol yn bodoli).
  • Darparu copïau neu ddolenni at eich deunydd hyrwyddo gan ddangos map a chyfarwyddiadau ysgrifenedig.

Nodwch fodd bynnag nad dyma’r unig feini prawf y dylech eu bodloni. Gan fod arwyddion brown a gwyn yn cyfrif fel arwyddion traffig, maent yn cael eu rhoi naill ai gan eich awdurdod lleol (os fyddant yn cael eu lleoli ar y rhwydwaith heolydd lleol) neu gan adran drafnidiaeth Llywodraeth Cymru (os fyddant ar gefnffordd).

Os fyddwch yn cyflwyno cais; bydd yr awdurdod lleol perthnasol yn cysylltu â ni i weld os yw’n meini prawf cefnogaeth yn cael eu bodloni.  Rhan yn unig o’r broses yw hyn, fodd bynnag, ac mae nifer o ffactorau sydd yn rhaid eu hystyried, er enghraifft materion diogelwch ffyrdd ac effaith amgylcheddol.  Nid oes modd rhestru’r holl ffactorau sydd i’w hystyried yma, ond bydd eich awdurdod lleol (adran priffyrdd) yn medru rhoi cyngor pellach i chi.

Cofiwch mai’r ymgeisydd sy’n talu costau’r arwyddion hyn. Rhaid i ni bwysleisio nad yw bodloni meini prawf Croeso Cymru’n unig yn sicrhau y bydd eich cais am arwydd yn llwyddiannus.