Skip to content

Diagnosteg Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)

Dolenni perthnasol

Rhagor o wybodaeth i'ch helpu chi gydag unrhyw ymholiadau am De Minimis.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae archwiliadau iechyd digidol am ddim ar gael i fusnesau twristiaeth cymwys.
Ydy’ch busnes chi yn manteisio i’r eithaf ar Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)? Hoffech chi fod yn fwy amlwg i gwsmeriaid, defnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid yn well a symleiddio arferion gweithio i wneud mwy o elw neu arbed amser? Ydych chi’n hyderus bod eich cofnodion yn gadarn a diogel a bod eich busnes yn ddiogel rhag e-drosedd?
Os ydych chi am dyfu’ch busnes drwy ddatblygu TGCh, efallai y byddwch yn gymwys i gael ein harchwiliad iechyd am ddim ar ddefnydd TGCh eich busnes (cyfrifiaduron, gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, offer teleffoni ac ati), sydd werth dros £700 ac ar gael i 750 o fusnesau twristiaeth cymwys.  
Peidiwch â cholli’ch cyfle; Mae 592 o fusnesau twristiaeth (gan gynnwys cystadleuwyr posibl) eisoes wedi cael adolygiad am ddim a dim ond 158 sydd ar gael o hyd (fel ag ar 07 Mai 2013). 
 

Ydych chi’n gymwys? 

Bydd busnes cymwys yn gallu dangos ei fod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
  • Busnes twristiaeth sy’n denu twristiaid yn annibynnol ar hyn o bryd ac sydd â’r gallu i ddenu mwy o dwristiaid 
  • Isafswm o adnoddau a dealltwriaeth o TGCh yn y busnes 
  • Y gallu i fabwysiadu gwersi/argymhellion o unrhyw ddiagnosteg 
  • Yn cyd-fynd â’r diffiniad Ewropeaidd o Fusnes Bach a Chanolig, 65% o ardal gydgyfeirio Cymru a chyfyngiadau cyllid Cymorth Gwladwriaethol. Mae map o’r ardaloedd cydgyfeirio yng Nghymru ar gael ar wefan WEFO. Mae diffiniad o fusnes bach a chanolig ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd
  • Yn bodloni safonau graddau/sicrhau ansawdd priodol ar gyfer y sector, lle maen nhw’n bodoli. Cliciwch ar y ddolen berthnasol ar y dde, a fydd yn mynd â chi i wybodaeth am raddau. 
  • Heb gael cymorth tebyg yn y ddwy flynedd ddiwethaf. 
  • Lle bernir gan y tîm cyflenwi na fyddai mecanweithiau cymorth eraill yn fwy addas i’r busnes.

Sut i wneud cais

Ar ôl cadarnhau eich bod yn bodloni’r meini prawf a darllen y llythyr Cymorth Gwladwriaethol a De Minimis, Amodau’r Grant a’r ffurflen Cyfle Cyfartal: 
Llenwch y ffurflen gais ar-lein
neu 
Lawrlwythwch a llenwch fersiwn Word y ffurflen gais a’i dychwelyd i ni yn y cyfeiriad canlynol: tourismICTdiagnostic@wales.gsi.gov.uk   
 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y broses ddiagnosteg, cysylltwch â ni yn tourismICTdiagnostic@wales.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0300 061 5504