Skip to content

Cyfleoedd cymorth cystadleuol i gymunedau digidol / cynlluniau peilot arloesol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cynllyn buddsoddi ar gyfer busnesau twristiaeth yng Nghymru yw’r prosiect fframwaith busnes twristiaeth ddigidol.

Mae’r rhaglen prosiect fframwaith busnes twristiaeth ddigidol nawr yn gwahodd ceisiadau. Y cam cyntaf yw cwblhau ffurflen datgan ddiddordeb, ar gael ar waelod y dudalen

Gweledigaeth Prosiect Fframwaith Busnes Twristiaeth Ddigidol yw y bydd diwydiant twristiaeth ddigidol Cymru wedi trosglwyddo o fod yn weddol anaeddfed o ran E-fusnes i fedru sefyll yn gadarn yn yr oes ddigidol a hynny erbyn diwedd 2014 er mwyn diwallu anghenion ymwelwyr o ran eu disgwyliadau a mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau hynny.

Yn y Prosiect Fframwaith Busnes Twristiaeth Ddigidol, mae’r rhaglen yn cynnig:

  • Arian ar gyfer creu cymunedau digidol a cynlluniau peilot technoleg arloesol.
  • Bydd cyllid angen cyfateb ar sail 53/47% (53% - Prosiect Fframwaith Busnes Twristiaeth / 47% - Ymgeisydd).

Y cynigion a’r broses

Unwaith y cyflwynir ffurflen datgan diddordeb gallwn wahodd yr ymgeiswyr i lenwi cais llawn ar gyfer cyllid i greu cymuned ddigidol neu brosiect peilot arloesol

Amserlen

Mae rhaglen y Prosiect Fframwaith Busnes Twristiaeth Ddigidol bellach yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cymunedau digidol a chynlluniau peilot arloesol. I ymgeisio, llenwch y ffurflen datgan diddordeb isod. Rhagwelir y daw’r cylch ceisiadau i ben ar ddiwedd 2013 ac mae’n rhaid i’r holl brosiectau fod wedi’u cwblhau erbyn haf 2014

Er mwyn cysylltu â’r Prosiect Twristiaeth Ddigidol, anfonwch eich ymholiadau at: digitaltourismprojects@wales.gsi.gov.uk