Skip to content

Twristiaeth wledig

Dolenni perthnasol

Prif swyddogaeth Croeso Cymru yw rhoi arweiniad a chyfeiriad strategol i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
Mae'r strategaeth twristiaeth genedlaethol yn trafod materion fel cynaliadwyedd, ansawdd, cystadleurwydd a phartneriaeth o fewn y diwydiant twristiaeth.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr amgylchedd, datblygu ac adfywio gwledig, ffermio, iechyd anifeiliaid, coedwigaeth, pysgodfeydd a chynhyrchu bwyd.
Yng nghyd-destun Cymru wledig, mae twristiaeth yn sector pwysig ac yn rhan annatod o'r economi wledig.

Oherwydd ansawdd eithriadol ei thirwedd, ei hamgylchedd naturiol a'i bioamrywiaeth gyfoethog, ynghyd â'i diwylliant a'i threftadaeth gref, mae Cymru yn denu llawer o ymwelwyr.

 

Nid oes polisi na rhaglen benodol sy'n targedu cymorth ar gyfer twristiaeth wledig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r dogfennau polisi canlynol yn mynd i'r afael â sawl un o'r problemau yr ydym yn eu hwynebu wrth ddatblygu a hyrwyddo twristiaeth yng nghefn gwlad Cymru.

 

Cyflawni ein Potensial yw'r strategaeth dwristiaeth gyffredinol i Gymru, sy’n amlinellu'r amcanion allweddol canlynol:

 

  • Datblygu a chyfleu brand penodol i Gymru
  • Gwella ansawdd y profiad i dwristiaid yng Nghymru
  • Ei gwneud yn haws cyrraedd Cymru
  • Hyrwyddo sgiliau uwch ym maes twristiaeth
  • Datblygu dulliau effeithiol o gydweithio yn y diwydiant

Mae'r strategaethau canlynol yn mynd i'r afael â materion penodol yn ôl thema neu ardal. Mae rhagor o wybodaeth ar y strategaethau ar gael trwy clicio ar y ddolen berthnasol ar y dde.  

  • Y Strategaeth Twristiaeth Arfordirol
  • Y Fframwaith a’r Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Gynaliadwy
  • Twristiaeth Gweithgareddau
  • Y Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Fwyd
  • Y Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Ddiwylliannol
  • Y Strategaeth Digwyddiadau Mawr
  • Yr asesiad o Dwristiaeth Gynaliadwy a Thrafnidiaeth