Skip to content

Amdano'r pwnc hwn

Dolenni perthnasol

Mae Cyfarwyddiaeth yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gyfrifol am weithredu'r agenda economaidd a’r agenda drafnidiaeth.
Mae'r strategaeth twristiaeth genedlaethol yn trafod materion fel cynaliadwyedd, ansawdd, cystadleurwydd a phartneriaeth o fewn y diwydiant twristiaeth.

Tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru yw Croeso Cymru. Mae twristiaid yn gwario o gwmpas £9 miliwn y dydd tra yng Nghymru, sy’n rhoi cyfanswm o tua £3.3 biliwn y flwyddyn.

Y weledigaeth ar gyfer twristiaeth yng Nghymru yw diwydiant sy’n ymatebol i gwsmeriaid, yn arloesol, cynaliadwy a phroffidiol sy'n gwneud cyfraniad cynyddol i les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru.

Mae Swyddogaethau twristiaeth statudol Llywodraeth Cymru yn dod o dan dwy brif Ddeddf Twristiaeth. Deddf Datblygu Twristiaeth 1969 a Deddf Twristiaeth (Hybu Tramor) (Cymru) 1992

Mae Deddf Datblygu Twristiaeth 1969 yn  rhoi pwerau a swyddogaethau cyffredinol i Lywodraeth Cymru i :

  • annog pobl i ymweld â Chymru yn ogystal ag annog pobl sy’n byw yng Nghymru i gymryd gwyliau yma
  • annog darpariaeth o amwynderau a chyfleusterau twristiaeth yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar y Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 ar  wefan Deddfwriaeth DU (dolen allanol)

Mae Deddf Twristiaeth (Hybu Tramor) (Cymru) 1992 yn rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru farchnata Cymru dramor heb gael caniatâd ymlaen llaw gan VisitBritain. Rhagor o wybodaeth ar y Ddeddf hon hefyd ar gael ar wefan Deddfwriaeth DU (dolen allanol)

Mae Croeso Cymru yn rhan o’r Is-adran Twristiaeth a Marchnata.  Mae Twristiaeth a Marchnata yn rhan o bortffolio yr Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,

Mae Croeso Cymru yn gyfrifol am lunio polisi twristiaeth, annog buddsoddiad yn y diwydiant twristiaeth, a gwella ansawdd y profiad ymwelwyr yng Nghymru.  Mae Croeso Cymru hefyd yn gyfrifol am farchnata Cymru yn y DU a thramor.  Mae gwaith Croeso Cymru yn rhannu’n ddau brif faes; Marchnata a Datblygu.

Cyflawni ein Potensial yw strategaeth twristiaeth genedlaethol i Gymru.  Mae’n sefydlu pedwar maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu: marchnata, rhagori ar ddisgwyliadau ymwelwyr, gwella sgiliau a chyflawni twf cynaliadwy.