Skip to content

Cysylltiadau Cymru - Affrica

Dolenni perthnasol

Gweithredu Tiriogaethol ar y Newid yn yr Hinsawdd
Plant ysgol yn Affrica

Mae Cymru’n falch iawn o’i chysylltiadau ag Affrica.

Ledled Cymru mae miloedd o bobl mewn cannoedd o grwpiau'n cynnal cysylltiad ag Affrica - o ysgolion sydd wedi'u gefeillio ag ysgolion yn Affrica, grwpiau gwirfoddol mawr sy'n codi miloedd i gefnogi prosiectau mawr, plant yn gofyn i'w siopau lleol werthu siocled masnach deg, pobl yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd rhyngwladol i newid y rheolau ar fasnachu yn y byd:

Mae rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn cefnogi nifer o grwpiau a gweithgareddau sy'n cynnal cysylltiad ag Affrica:

Cyswllt Cymunedol Cymru - Affrica - rhaglen sy'n canolbwyntio ar ddatblygu rhagoriaeth mewn cysylltiadau cymunedol rhwng Cymru ac Affrica i greu heddwch, ffyniant a dealltwriaeth drwy gyd-ddatblygu.

Cyswllt Iechyd Cymru o Blaid Affrica - rhaglen sy'n canolbwyntio ar hwyluso a chydlynu dull effeithiol o ddatblygu'r agenda iechyd byd-eang yng Nghymru.

Cynllun Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol - rhaglen ddatblygu'r gwasanaeth cyhoeddus sy'n cynnig lleoliad o hyd at wyth wythnos o waith yn Affrica Is-Sahara 

Mae Diaspora - rhaglen Cymru o blaid Affrica yn gweithio gyda phartneriaid i hwyluso gwaith cymunedau ar wasgar yng Nghymru er mwyn cael yr effaith fwyaf bosib ar gyrraedd Nodau Datblygu'r Mileniwm yn y gwledydd sy'n gartref iddynt.