Skip to content

Gweithredu Tiriogaethol ar y Newid yn yr Hinsawdd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Coed bychain
Yn 2010, mewn partneriaeth â'r UNDP, lansiodd Llywodraeth Cymru Brosiect Gweithredu Tiriogaethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (TACC) yn Mbale, Uganda.
Partneriaeth yw'r prosiect Gweithredu Tiriogaethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (Mbale TACC) sy'n cynnwys unigolion, sefydliadau cymunedol, y sector preifat a'r Llywodraeth.  Maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo datblygiadau cynaliadwy carbon isel yn ardaloedd Mbale, Bududa a Manafwa, Uganda. Prosiect UNDP yw hwn a gefnogir drwy nawdd ariannol gan Lysgenhadaeth yr Iseldiroedd, DFID ac UNDP.  Rhoddir y cymorth technegol a datblygiadol gan Lywodraeth Cymru.

Nod rhaglen TACC Cymru - Mbale yw sicrhau mwy o goedwigoedd a helpu cymunedau lleol i addasu i'r newid yn yr hinsawdd.
Caiff cynllun gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ei lunio ar gyfer Mbale gydag arbenigedd y Cenhedloedd Unedig, a data lloeren, tir-brofion, data meteorolegol, a chymorth gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd Cymru. Bydd y cynllun yn nodi pa mor debygol yw'r newid yn yr hinsawdd o effeithio ar yr ardal a chaiff ei ddefnyddio'n sail i geisiadau am gyllid rhyngwladol i ariannu mentrau carbon. 
 
Ceir copi o gylchlythyr diweddaraf TACC ar waelod y dudalen hon.