Skip to content

Neges Prif Weinidog Cymru am Mali.

Mae Prif Weinidog Cymru’n gwneud y datganiad canlynol ar y sefyllfa ym Mali

“Rydym yn teimlo i’r byw dros bobl Timbyctŵ sydd wedi’u heffeithio gan y sefyllfa fregus ym Mali."

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn falch i gefnogi’r cysylltiad sy’n bodoli rhwng y Gelli Gandryll a Thimbyctŵ ers ei sefydlu yn 2007, gan roi cymorth i nifer o brosiectau yn ein rhaglen Cymru o blaid Affrica. Gwn fod cysylltiadau personol gan lawer o bobl y Gelli Gandryll â Thimbyctŵ ac rwy’n rhannu eu pryder dybryd am y bobl yn eu gefeilldre."

"Er nad yw ymweliadau â Thimbyctŵ yn bosib ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gwaith y grwpiau sydd wedi’u cysylltu â Thimbyctŵ yn y Gelli Gandryll, a’u hymdrechion i fwrw ymlaen â’r prosiectau ystyrlon a ddechreuwyd."


Gwybodaeth bellach

Mae’r dolenni newyddion allanol canlynol yn rhoi gwybodaeth bellach am y sefyllfa gyfredol ym Mali:

BBC News Africa - "Life in Timbuktu under Islamist rule"

Jump 4 Timbuktu - Update on the Jump4Timbuktu appeal