Skip to content

Cymru o Blaid Affrica

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gynnig arian grant ar gyfer cysylltiadau iechyd gydag Affrica Is-Sahara yn ystod 2012-13 / 2012-15.
O’r dudalen hon, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwaith yr ydym yn ei wneud i godi proffil rhyngwladol Cymru, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am fasnach, buddsoddi, twristiaeth a chyllid.
Y modd rydym yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i leihau allyriadau carbon a pharatoi at y newid yn yr hinsawdd.
Ymateb Llywodraeth Cymru i Drychinebau Rhyngwladol
African women with their hands up

Lansiwyd y rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn 2006. Bu'n flaenllaw yn ymdrechion Cymru i helpu i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig i haneru tlodi byd-eang erbyn 2015.

Er mai'r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DfID) sy'n bennaf gyfrifol am ddatblygu rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig, mae galw o fewn Cymru am ymateb Cymreig amlwg tuag at gyfrannu at ddatblygu rhyngwladol a mynd i'r afael ag argyfyngau.

O dan amodau'r setliad datganoli, rhaid i'r hyn a wneir gennym i gefnogi Nodau Datblygu'r Mileniwm, ddod â budd i Gymru yn ogystal â'r byd sy'n datblygu. Mae hyn yn cyfyngu ar yr amrywiaeth o weithgareddau y gallwn eu cefnogi, ond mae hefyd yn sicrhau y bydd yr hyn a wnawn yn fwy cynaliadwy ac yn seiliedig ar bartneriaethau cyfartal.

Nod y rhaglen Cymru o Blaid Affrica yw:

  • annog lleoliadau yn y sector cyhoeddus a gefeillio sy'n cyfrannu at gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm; 
  • meithrin gallu Cyrff Anllywodraethol Datblygu Rhyngwladol bach yng Nghymru a helpu i gydlynu'r sector cyfan er mwyn cryfhau effaith Cymru ar gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm; 
  • hyrwyddo ac annog gwirfoddoli rhyngwladol ym maes datblygu cynaliadwy ymhlith y cyhoedd a staff sector cyhoeddus Cymru; 
  • gweithio gyda phartneriaid i hwyluso gwaith cymunedau ar wasgar yng Nghymru er mwyn cael yr effaith fwyaf bosib ar gyrraedd Nodau Datblygu'r Mileniwm yn y gwledydd sy'n gartref iddynt;
  • hyrwyddo arfer gorau ym maes Masnach Deg a chaffael moesegol ar draws y sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru - gan wneud Cymru'n fodel o fasnach deg a chaffael moesegol yn Ewrop.

Os hoffech gysylltu â'r Tîm Cymru o Blaid Affrica anfonwch e-bost at walesforafrica@cymru.gsi.gov.uk