Skip to content

Y Gronfa Her Datblygu Cynaliadwy

Dolenni perthnasol

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Yn 2010, cafodd y Gronfa Her Datblygu Cynaliadwy gyntaf erioed ei chynnal yng Ngŵyl y Gelli. Yr enw mwy cyfarwydd ar y gronfa yw ‘Ffae’r Dreigiau Gwyrdd’. Dewiswyd pedwar enillydd gan banel o ‘Ddreigiau Gwyrdd’, a chafodd y pedwar £10,000 yr un i ddatblygu eu syniadau i wneud Cymru’n lle mwy cynaliadwy.

Yng Ngŵyl y Gelli 2011, daeth y Dreigiau Gwyrdd ynghyd unwaith eto i brofi syniadau criw newydd o ymgeiswyr a oedd yn gobeithio dod i’r brig. Roed y gystadleuaeth yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:

  • Y Pethau Bychain – lleihau effaith y stwff rydyn ni’n ei wneud, ei brynu, ei ddefnyddio ac yn ei ailgylchu bob dydd;
  • O’r Pridd i’r Plât – gwella’r ffordd rydyn ni’n tyfu, cludo, prosesu a defnyddio’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta; 
  • Ar yr Aelwyd – gwneud yn fawr o’r arferion da sy’n arbed arian ac ynni a lleihau ar yr un pryd ein heffaith ar yr amgylchedd; a 
  • Clymu Cymunedau – meddwl am ffyrdd newydd a gwell o ddod â buddiannau cynghorau lleol, busnesau, cymunedau a’r trydydd sector ynghyd er mwyn eu cryfhau a lleihau eu heffaith.

Roedd y Dreigiau Gwyrdd yn chwilio am ymgeiswyr a allai ddangos:

  • Sut y byddan nhw’n hybu datblygu cynaliadwy yng Nghymru ac yn helpu i wireddu ein gweledigaeth o Gymru gynaliadwy (sy’n cael ei disgrifio yn Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned); 
  • Arloesedd a meddwl blaengar a mentrus; 
  • Sut y byddan nhw’n integreiddio agweddau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ac yn hybu atebion cynaliadwy hirdymor; a 
  • Sut y byddan nhw’n cynnal lles hirdymor pobl a chymunedau Cymru.

Cyn y rownd derfynol, bu’r ymgeiswyr i gyd yn ymarfer eu cyflwyniadau gerbron y cyhoedd mewn man o’r enw ‘Maes Chwarae’r Dreigiau’. Roedd cyfle yma i ymwelwyr ofyn cwestiynau am y prosiectau, gadael sylwadau a phleidleisio cyn y rownd derfynol.

Enillwyr 2011

Dyma restr enillwyr 2011:

  • Rebound Books a gipiodd wobr ‘Y Pethau Bychain’. L’Arche Aberhonddu sydd wedi datblygu’r prosiect hwn, gan greu cymuned lle mae oedolion ag anableddau dysgu a’r rhai sydd heb anableddau yn rhannu bywyd gyda’i gilydd. Mae’r prosiect yn creu llyfrau nodiadau, llyfrau brasluniau, dyddiaduron a dyddlyfrau sydd wedi’u hailgylchu o hen lyfrau nad oes ar neb ei heisiau rhagor, gyda thudalennau’r hen gyhoeddiadau’n gymysg â’r tudalennau gwag newydd.
  • Bwyd i’r Dyfodol, prosiect gan Gyngor Blaenau Gwent, a ddaeth i’r brig yn y categori ‘O’r Pridd i’r Plât’. Nod y prosiect hwn yw annog ysgolion cynradd ac uwchradd i greu rhandiroedd a gerddi bywyd gwyllt a sefydlu cyfleusterau ailgylchu gwastraff ar draws y Sir.
  • Miliwn Person – Cynllun Rhannu i Gymru oedd enillwyr y gystadleuaeth ‘Ar yr Aelwyd’. Bwriad y cynllun yw helpu pobl a chymunedau Cymru i rannu eu hadnoddau. Caiff popeth, o feiciau i ystafelloedd cyfarfod neu offer garddio, ei rannu drwy blatfform rhannu ar-lein, gan greu dull cydweithredol o ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau.
  • Potiau, tybiau, cafnau a llysiau a ddaeth i’r brig yn yr adran ‘Clymu Cymunedau’. Datblygir y prosiect cymunedol hwn Gynghrair Les, sy’n cynnwys grŵp The Cooperative, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cymunedau yn Gyntaf/Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, a’i nod yw annog pobl Blaenau Gwent i dyfu eu cynnyrch eu hunain, rhannu sgiliau a dod at ei gilydd.

Ewch i: Rebound books (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: Bid and borrow - Miliwn Person – Cynllun Rhannu i Gymru (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: Erthygl gan SD Scene (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: Gwefan EcoSapiens (dolen allanol, Saesneg yn unig)