Skip to content

Grŵp Cymru Carbon Isel/Di-garbon

Dolenni perthnasol

Mae'n cefnogi ein hymrwymiadau i leihau'r newid yn yr hinsawdd, helpu i ddileu tlodi tanwydd a rhoi hwb i ddatblygu economi Cymru ac adfywio'r wlad.
Mae Rheoliadau Adeiladu yn pennu safonau dylunio ac adeiladu sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o adeiladau newydd a llawer o addasiadau i adeiladau presennol.
Mae gwahanol fathau o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar gael i ni. Mae rhai o’r technolegau a’u manteision yn cael eu hesbonio yn y fan yma.
Mae'r siarter hon yn galluogi sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy.
logo Grŵp Cymru Carbon Isel/Di-garbon

Sefydlwyd ‘Grŵp Cymru Carbon Isel/Digarbon’ gennym, sef grŵp sy’n cynnwys aelodau allweddol o’r diwydiant adeiladu, y sector tai a’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Nod y Grŵp yw helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau o ran lleihau allyriadau carbon.

Mae’r Grŵp yn cydweithio â Chomisiwn Dylunio Cymru, y Comisiwn Dyfodol Cynaliadwy ac Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru ac yn ategu eu gwaith.

Yn y dyfodol, rydym am i bob adeilad newydd yng Nghymru gyrraedd safonau di-garbon. Hefyd, rydym yn benderfynol o leihau 3% y flwyddyn ar allyriadau nwyon tŷ gwydr o 2011 ymlaen mewn meysydd polisi rydym yn eu rheoli.

Bydd ein gwaith ar newid Rheoliadau Adeiladu Cymru ar gyfer y dyfodol yn ein helpu i symud tuag at adeiladau digarbon.

Mae’r grŵp yn cynnig arweiniad i:

  • leihau allyriadau o bob adeilad;
  • hyrwyddo cyfleoedd masnachol yn sgil adeiladu carbon isel;
  • ymchwilio i’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen er mwyn sicrhau hyn yn y diwydiant adeiladu.

Bydd y grŵp hwn hefyd yn cydgysylltu’r 53 o sefydliadau sydd wedi llofnodi Siarter Adeiladu Gwyrdd Cymru, y gyntaf o’i math yn y DU.

Mae’r grŵp a’n Siarter Adeiladu Gwyrdd yn dangos sut y mae grwpiau o bob cwr o Gymru yn barod i gydweithio er mwyn helpu Cymru i leihau’i hôl-troed carbon.

Ewch i: wefan Grŵp Cymru Carbon Isel/Di-garbon (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: wefan Comisiwn Dylunion Cymri, Siarter Clymblaid (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Tai Cymru yn y Dyfodol

Mae pedwar tŷ arddangos arbrofol ynni isel wedi’u hadeiladu yn y Gweithfeydd yng Nglyn Ebwy. Maent yn adnodd addysgiadol ar gyfer y diwydiant adeiladu er mwyn datblygu tai yn y dyfodol.

Ewch i: wefan Tai Cymru yn y Dyfodol (dolen allanol)