Skip to content

Canllawiau dylunio defnyddiol

Dolenni perthnasol

Yn bwrw golwg fanwl ar sut y mae'r berthynas rhwng adeiladau a'r stryd yn hanfodol i greu lleoedd sy’n dda i bobl.
Daeth datganiadau dylunio yn ofynnol ar 1af Mehefin 2009.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys dogfennau a dolenni i wefannau ynglŷn â dylunio cynaliadwy.

Canllaw Dylunio Enghreifftiol ar gyfer Cymru – Datblygu Preswyl

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl waith datblygu yng Nghymru wedi’i ddylunio’n dda. Mae’r canllaw hwn yn offeryn ymarferol ar gyfer helpu i gyrraedd y nod.

Ewch i: Canllaw Dylunio Enghreifftiol ar gyfer Cymru – Datblygu Preswyl (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Creu Adeiladau Ardderchog

Mae’r canllaw hwn yn ffynhonnell werthfawr o gyngor ar gyfer comisiynu a rheoli prosiectau adeiladu. Canllaw ar gyfer cleientiaid a’u timau dylunio ac adeiladu ydyw. Mae’r canllaw ar gael ar wefan y Comisiwn dros Bensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig (CABE). Caiff ei ardystio gan Gomisiwn Dylunio Cymru.

Ewch i: wefan Creu Adeiladau Ardderchog (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Menter Tai Gwledig Fforddiadwy – Creu Naws am Le – Canllaw Dylunio

Mae’r canllaw hwn yn ymwneud ag ymddangosiad, adeiladwaith a chynllun tai fforddiadwy ar gyfer pentrefi a threfi bach. Defnyddir astudiaethau achos o Gymru a’r DU er mwyn dangos dyluniad da ar waith a’r manteision ehangach a ddaw o ganlyniad i hynny.

Ewch i: wefan Menter Tai Gwledig Fforddiadwy – Creu Naws am Le – Canllaw Dylunio (dolen allanol, Saesneg yn unig, pdf)