Skip to content

Uwchgynlluniau

Dolenni perthnasol

Wrth chwilio am le i fyw, dysgu, gweithio a chwarae ynddo, mae’r argraff y mae lle yn ei adael arnoch yn hollbwysig.

Rydym yn paratoi uwchgynlluniau ar gyfer ardaloedd sy’n newid neu ardaloedd lle ceir ymyrraeth dargedig sy’n cael blaenoriaeth i adfywio cymuned yn gynaliadwy.

Mae tri cham i’r uwchgynlluniau:

  • Cydweithio gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol;
  • Creu gweledigaeth i’w rhannu; 
  • Cyflawni.

Datblygu cynaliadwy yw egwyddor drefnu ganolog uwchgynlluniau, gyda’r nod o fodloni amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Dylai uwchgynllun:

  • Adfywio cymuned yn gynaliadwy drwy adfywio safle cyfredol neu greu datblygiad cynaliadwy newydd;
  • Creu datblygiad gydag ymdeimlad o le;
  • Bodloni amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Caiff uwchgynlluniau’n eu defnyddio i gyrraedd safon uchel o ran ansawdd dylunio a safonau amgylcheddol (gweler 'Ein safonau adeiladu cynaliadwy’).

Creu Uwchgynlluniau Llwyddiannus

Mae’r Comisiwn Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig (CABE) wedi cyhoeddi canllaw i Greu Uwchgynlluniau Llwyddiannus. Mae’n helpu pobl i gydweithio i greu cynlluniau ar gyfer llefydd gwell.

Mae’r canllaw ar gael ar wefan CABE. Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn ei gymeradwyo.

Ewch i: Y Comisiwn Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig: Creu uwchgynlluniau llwyddiannus (dolen allanol, Saesneg yn unig)