Skip to content

Creu mannau gwell

Dolenni perthnasol

Y newid yn yr hinsawdd yw un o’r sialensiau pwysicaf sy’n wynebu’r byd - ac un y mae angen i ni i gyd fynd i’r afael â hi.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bolisïau cynllunio, penderfyniadau cynllunio, cynlluniau datblygu, ymchwil ac ystadegau.
Rydym wedi nodi nifer o ardaloedd ledled Cymru yr ydym yn eu hadfywio.
Rydyn ni’n rhoi cyllid i 14 prosiect sy’n canolbwyntio ar wella ansawdd yr aer, sŵn amgylcheddol a mannau gwyrdd tawel mewn ardaloedd trefol.
Diwydiant Adeiladu Cymru’n chwarae rhan allweddol wrth greu economi ffyniannus ac amgylchedd o ansawdd da.
Cynllun: "the Mill" yng Nghaerdydd

Mae ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy wedi’i nodi yn ein cynllun Datblygu Cynaliadwy.

Y nod yw gweld datblygu o ansawdd da yn norm a phob adeilad newydd yn cael eu hadeiladu i’r safonau uchaf posibl o ran effeithlonrwydd ynni a dŵr. Rydym am symud tuag at safon ddigarbon ar gyfer pob adeilad newydd. Caiff datblygiadau newydd eu lleoli, eu cynllunio a’u hadeiladu mewn ffordd sy’n lleihau’r angen i deithio hyd y bo modd.

Mae dyluniad ein pentrefi, ein trefi, ein dinasoedd a’n tirwedd trefol a gwledig yn adlewyrchiad o’n cenedl a’n diwylliant. Mae cynllun cynaliadwy da yn helpu i wella ein safon byw. Mae ansawdd tirlun a threflun amrywiol Cymru yn helpu i gynnal delwedd bositif i Gymru. Rydym eisiau gweld cynllunio da yn ein hamgylchedd adeiledig a’n hamgylchedd naturiol sy’n gofalu am les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl Cymru.

Rydym wedi yn hwyluso’r broses o gynllunio cynaliadwy drwy:

  • sefydlu Comisiwn Dylunio Cymru; 
  • sefydlu Grŵp Cymru Carbon Isel/Digarbon; 
  • diwygio’r system gynllunio drwy ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu Datganiad Dylunio a Mynediad i gyd-fynd â’r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio; 
  • pennu newidiadau i reoliadau adeiladu Cymru ar gyfer y dyfodol; 
  • pennu safonau gofynnol yn amod craidd cyllid grant; 
  • datblygu uwchgynlluniau; 
  • pennu safonau dylunio gofynnol ar gyfer tai, ac adeiladau addysg a gofal iechyd. 

Help i fusnesau

Gall busnesau yng Nghymru fynd ar-lein neu alw i mewn i’w Canolfan Ranbarthol i gael cymorth gyda materion amgylcheddol. Cewch wybod sut i leihau allyriadau carbon eich busnes a gwybod sut i ddefnyddio adnoddau’n fwy effeithlon.

Ewch i: wefan Busnes.Cymru (dolen allanol)