Skip to content

Ystadegau cyfiawnder cymdeithasol

Briffio ystadegol, dadansoddiadau, a chyhoeddiadau sy'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol, tlodi ac amddifadedd.

Cyfiawnder cymdeithasol

Defnyddir y termau cyfiawnder cymdeithasol, allgáu cymdeithasol a chynhwysiant cymdeithasol i nodweddu bywydau sydd heb lawer o gyfleoedd wedi'u hachosi gan set o broblemau'n gysylltiedig ag amddifadedd, tlodi a ffactorau eraill. Cyfiawnder cymdeithasol yw'r cysyniad o gyfiawnder sy'n cyfeirio at gymdeithas gyfan, sef y syniad o gymdeithas gyfiawn sy'n trin unigolion a grwpiau o bobl yn deg a lle na chaiff neb eu hallgáu'n gymdeithasol.

Mae'r Cyhoeddiadau Ystadegol ar Gyfiawnder Cymdeithasol, 2006 yn cyflwyno ystod o ystadegau sy'n cymharu amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd pobl sy'n byw yng Nghymru.

Tlodi

Ystyr tlodi yw bod yn brin o ddigon o arian (neu bethau hanfodol eraill) i fyw. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau'n cyhoeddi data ar gartrefi islaw'r incwm cyfartalog (dolen allanol). Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys prif ddangosyddion swyddogol tlodi incwm y DU, gan gynnwys tlodi plant a thlodi pensiynwyr.

Amddifadedd

Mae amddifadedd yn gysyniad ehangach na thlodi. Mae amddifadedd yn cyfeirio at broblemau a achosir gan brinder adnoddau a chyfleoedd yn gyffredinol (nid arian yn unig). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2005 (MALlC) yw'r mynegai swyddogol ar gyfer mesur amddifadedd mewn rhannau bychain o Gymru.

Os na allwch ddod o hyd i'r union wybodaeth sydd ei hangen arnoch anfonwch e-bost i'r cyfeiriad a ganlyn: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk