Skip to content

Ystadegau cyllid llywodraeth leol

Dolenni perthnasol

Yn cynnwys data ar wariant refeniw gros a chyllidebau.
Rhestr o ddogfennau ystadegol a'r dyddiadau y bwriedir eu cyhoeddi.
Yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Ymholiadau ac i roi sylwadau ar dudalennau gwe Ystadegau Cymru.
Ffurflen gasglu data ar gyllid llywodraeth leol.

Mae ein datganiadau ystadegol yn cynnwys set gyflawn a chynhwysfawr o wybodaeth ar gyllid awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r tablau yn cynnwys gwariant refeniw a chyfalaf, grantiau cyffredinol a phenodol, y dreth gyngor a gwybodaeth am ardrethi annomestig. Mae'n cynnwys data hanesyddol, cyfredol a chyllidebol.

Refeniw Alldro a Refeniw Cyllideb yw’r gwariant sy'n gysylltiedig â rhedeg gwasanaethau awdurdodau lleol, megis cyflogau, prynu nwyddau megis llyfrau ar gyfer ysgolion a chostau rhedeg o ddydd i ddydd megis gwresogi, goleuo a glanhau adeiladau.

Alldro Cyfalaf a Rhagolygon Cyfalaf yw’r gwariant ar fuddsoddi mewn gwasanaethau awdurdodau lleol, yn bennaf y darparu, meddiannu a gwella asedau sefydlog megis tir, adeiladau a cherbydau.

Cesglir Ardrethi Annomestig gan bob awdurdod bilio ar gyfer pob busnes o fewn ei ardal.

Y dreth gyngor yw’r tâl a godir ar bob annedd domestig ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys elfennau ar gyfer y sir neu gyngor bwrdeistref sirol, ynghyd ag elfennau ar gyfer awdurdod yr heddlu ac, os oes un yn bodoli, ar gyfer y cyngor cymuned lleol.

Gwariant ar addysg yw gwariant ar ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig, gan gynnwys costau athro, cludiant o'r cartref i'r ysgol, ac atgyweirio a chynnal. Mae hefyd yn cynnwys gwasanaethau y tu allan i’r ysgol fel gwasanaeth ieuenctid, addysg gymunedol ac addysg bellach.

Pwy yw'r defnyddwyr allweddol?

Rydym yn credu mai defnyddwyr allweddol y cyhoeddiad ystadegol hwn yw:

  • Gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Trysorlys Ei Mawrhydi
  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Cymunedau a Llywodraeth Leol
  • Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
  • Awdurdodau unedol llywodraeth leol (aelodau etholedig a swyddogion)
  • Myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion,
  • Meysydd eraill o Lywodraeth Cynulliad Cymru
  • Adrannau eraill y llywodraeth
  • Dinasyddion unigol a chwmnïau preifat.

Sut y defnyddir y data

Mae'r ystadegau yn cael eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd. Mae rhai enghreifftiau o'r rhain yn
cynnwys:

  • Cyngor i Weinidogion
  • Cyfrifiadau setliad refeniw Cyllid Llywodraeth Leol
  • Cymariaethau awdurdodau unedol a meincnodi
  • Gwariant Cymru o'i gymharu â gwledydd eraill
  • I lywio trafodaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a thu hwnt
  • Cynorthwyo mewn ymchwil i faterion gwariant cyhoeddus
  • Dadansoddiad economaidd.

Adborth

Rydym yn annog adborth ar ein hystadegau. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, neu os nad ydych yn credu bod y rhestr yn adlewyrchu’n ddigonol yr ystod o ddefnyddwyr a defnyddiau, yna cysylltwch â ni: stats.finance@wales.gsi.gov.uk neu gellir llenwi ffurflen adborth.