Skip to content

Rhenti tai cymdeithasol

Gwybodaeth am renti wythnosol cyfartalog anheddau annibynnol a gaiff eu rhentu oddi wrth awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar 31 Mawrth bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol  e.e. ar 31 Mawrth 2012 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13.

Cesglir data am renti tai cymdeithasol oddi wrth awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn flynyddol.

Defnyddir yr wybodaeth yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn canfod a monitro’r rhenti wythnosol cyfartalog a godir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ôl y math o eiddo ar draws awdurdodau Cymru, ac er mwyn cymharu’r lefelau rhenti a bennir ar gyfer tai cymdeithasol bob blwyddyn gan ddefnyddio’r polisi rhenti tai cymdeithasol cyfredol.

O fis Mawrth 2012 ymlaen, cynhwysir gwybodaeth am stoc tai cymdeithasol mewn penawdau a datganiadau ynghylch rhenti tai cymdeithasol. Cyn hyn, roedd gwybodaeth am osodiadau yn cael ei chyfuno â stoc a lleoedd gwag tai cymdeithasol.

Penawdau, datganiadau a bwletinau ystadegol

Stoc a rhent tai cymdeithasol, ar 31 Mawrth 2012

Setiau data

Ceir setiau data manwl ar wefan StatsWales.

Ffynonellau gwybodaeth eraill

Cymunedau a Llywodraeth Leol: Ystadegau rhenti tai cymdeithasol ar gyfer Lloegr

Llywodraeth yr Alban: Ystadegau rhenti tai cymdeithasol ar gyfer yr Alban

Adran ar gyfer Datblygiad Cymdeithasol: Ystadegau rhenti tai cymdeithasol gyfer Gogledd Iwerddon

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r union wybodaeth sydd ei hangen arnoch, e-bostiwch: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Rydym yn annog adborth gan ein defnyddwyr; os oes gennych unrhyw sylwadau, cwblhewch ein ffurflen adborth.