Skip to content

Ystadegau tai

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys egwyddorion a phrosesau cyffredinol yn arwain at gyhoeddi ein hystadegau.
Ffurflen gasglu data ar tai.
Y brif ffynhonnell o wybodaeth am gartrefi a chyflwr cartrefi yng Nghymru.

Nod y tudalennau hyn yw darparu gwybodaeth ystadegol am bob agwedd ar dai yng Nghymru. Rydym wedi darparu'r wybodaeth ddiweddaraf lle bo'n bosibl ynghyd â chysylltiadau i gyhoeddiadau blaenorol a gwefannau perthnasol eraill.

Mae cangen Ystadegau Tai yn darparu gwybodaeth briffio, cyngor a datganiadau ar ystadegau sy'n berthnasol i thai yng Nghymru. Os na allwch ddod o hyd i'r union wybodaeth sydd ei hangen arnoch, anfonwch e-bost i stats.housing@wales.gsi.gov.uk.

Amserlen newydd ar gyfer allbynnau Tai

Mae newidiadau sylweddol yn amserlen cyhoeddi datganiadau blynyddol tai 2012-13. Mae'r amserlen newydd yn adlewyrchu'r newidiadau yn amserlennu casgliadau data tai o 1 Ebrill 2012, sy'n anelu at wella'r broses ddilysu a lleihau'r baich ar ddarparwyr data yn sgil y newidiadau canlynol:

  • Bydd data ond yn cael ei alw ar yr amser y mae angen iddo gael ei brosesu, fel bod unrhyw waith dilynol sy'n ymwneud â'r gwaith yn ffres yng nghof y darparwyr.
  • Bydd mwy o ffurflenni'n cael eu poblogi o flaenllaw â data perthnasol, gan leihau amser cwblhau ffurflenni ar gyfer darparwyr data.
  • Gwella dilysu ar hyd ffurflenni, a ddylai gyfyngu'r angen o ddiwygiadau yn y dyfodol.
  • Bydd amseru'r allbynnau'n cwrdd â gofynion defnyddwyr yn well.

Mae newidiadau hefyd yn sut bydd rhai pynciau yn cael eu cyfuno o fewn allbynnau pan fo cysylltiad naturiol rhwng y ddau bwnc, fel stoc a rhenti tai cymdeithasol. Mae'r amserlen newydd ar gael trwy dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir.

Ymholiadau casglu data

Defnyddiwch y cyswllt yma os ydych yn casglu a chyflwyno data tai, a bod gennych ymholiad ynghylch y casgliad.

E-bost: housing.collections@wales.gsi.gov.uk
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332