Skip to content

Arolwg Iechyd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae'r papur yma yn dangos fel y mae arolwg yn adlynu i fesurau ansawdd.

Mae’r Arolwg yn rhoi darlun unigryw o iechyd y bobl sy’n byw yng Nghymru, a’u ffordd o fyw sy’n ymwneud â iechyd.

Pwy yw’r defnyddwyr allweddol?

Defnyddir Arolwg Iechyd Cymru gan ystod eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio mewn llywodraeth leol a chenedlaethol, sefydliadau’r GIG a lleoliadau academaidd ac ymchwil. Y mae hefyd yn ddefnyddiol i’r gynulleidfa gyffredinol ehangach, yn enwedig y rhai hynny yng Nghymru.

Sut mae’r data yn cael ei ddefnyddio?

Mae’r arolwg yn bodloni ystod o anghenion ac mae’n cael ei ddefnyddio mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys i:

  • ddarparu amcangyfrifon cenedlaethol o ran iechyd a ffordd o fyw sy’n gysylltiedig ag iechyd.
  • ymchwilio i’r gwahaniaethau rhwng is-grwpiau y boblogaeth ac ardaloedd lleol.
  • darparu tystiolaeth i lunio a monitro polisïau a strategaethau ar gyfer hyrwyddo iechyd gwell.
  • darparu data ar gyfer gosod a monitro targedau a dangosyddion.
  • darparu gwybodaeth ar lefel awdurdod lleol er mwyn datblygu strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles ar y cyd.  

Gwybodaeth bellach

Taflen wybodaeth Arolwg Iechyd Cymru

Mae'r daflen wybodaeth fer yma yn darparu crynodeb o'r arolwg, gan gynnwys rhai canlyniadau allweddol.

Canllaw i ddefnyddwyr Arolwg Iechyd Cymru 

Mae'r canllaw ddefnyddwyr yn rhoi trosolwg o’r arolwg, a chrynodeb o'r prif adroddiadau a'r setiau data sydd ar gael.

Gwefan y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Cymdeithasol (NatCen): Arolwg Iechyd Cymru - Cyfranogwyr (dolen allanol)
Canllawiau ar gyfer rheini a wahoddwyd i gymryd rhan yn Arolwg Iechyd Cymru.

Diweddariadau

Hoffech chi dderbyn diweddariadau achlysurol gennym ar Arolwg Iechyd Cymru? Os hoffech chi eu derbyn cysylltwch â stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk a gofynnwch am gael eich cynnwys ar restr Ebost Arolwg Iechyd Cymru.