Skip to content

Ystadegau iechyd a gofal

Dolenni perthnasol

Mynychodd tua 80 o bobl o du allan i Lywodraeth Cymru’r digwyddiad.
Mae’r ddogfen yma yn tynnu sylw at pwy rydym yn credu yw ein defnyddwyr allweddol ac i beth maent yn defnyddio’r data.
Mae 'bodloni anghenion defnyddwyr' ac 'ymgysylltu â defnyddwyr' yn agweddau allweddol ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.
Mae amrywiaeth eang o wybodaeth ystadegol am iechyd y boblogaeth ac am ystod ac ansawdd gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru i’w gweld yn y cyhoeddiad blynyddol hwn.
Cyfeirlyfr hygyrch a hwylus ydyw sy’n dangos tueddiadau hirdymor mewn iechyd.
Penawdau, datganiadau a bwletinau ystadegol.
Rhestr o ddogfennau ystadegol a'r dyddiadau y bwriedir eu cyhoeddi.
Ffurflen gasglu data ar iechyd.
Ymholiadau ac i roi sylwadau ar dudalennau gwe Ystadegau Cymru.

Mae ein hallbynnau ystadegol yn cynnwys set gynhwysfawr o wybodaeth am iechyd, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Maent yn cwmpasu ystod eang o bynciau yn cynnwys amseroedd aros, cwynion i’r GIG a Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

Ystadegau’r GIG - Iechyd Cymunedol - yn cynnwys ystadegau ar weithgarwch iechyd mamau a phlant, imiwneiddio, atal cenhedlu cymunedol, erthyliadau, a’r Wasanaeth Ddeintyddol Cymunedol.

Ystadegau Cyllid y GIG - dadansoddiad ôl-weithredol o wariant y GIG, fesul ‘rhaglen’, gyda’r nod o gael gwell dealltwriaeth ynghylch sut mae’r arian yn cael ei wario.

Cyfleusterau a Gweithgareddau Ysbytai’r GIG - darperir gwybodaeth gryno gan y GIG ar y defnydd o welyau a gweithgaredd yn y GIG.

Perfformiad y GIG - ystadegau’n cwmpasu amseroedd aros, cwynion, oedi wrth drosglwyddo gofal, amser a dreulir mewn unedau damweiniau ac achosion brys ac amseroedd ymateb ambiwlansys.

Ystadegau’r GIG - Iechyd Sylfaenol - yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau meddygon teulu a deintyddion, gwasanaethau presgripsiynu a fferyllol, ystadegau profion golwg a dadansoddiadau o alwadau i Galw Iechyd Cymru.

Gweithlu’r GIG - gwybodaeth gryno ynghylch staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, swyddi a fu’n wag am dri mis neu fwy ac absenoldebau oherwydd salwch.

Digwyddiadau Bywyd - yn darparu ystadegau ar enedigaethau, cenhedliad, marwolaethau a disgwyliad bywyd.

Iechyd Cyhoeddus - yn darparu dolenni i ffynonellau ar gyfer ystadegau iechyd cyhoeddus.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl - gwybodaeth gryno ynghylch cleifion a dderbyniwyd i gyfleusterau iechyd meddwl a chanlyniadau’r cyfrifiad cleifion mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl y GIG.

Arolwg Iechyd Cymru - darperir gwybodaeth ynghylch iechyd a ffordd o fyw cysylltiedig ag iechyd trigolion Cymru.

Gwasanaethau Cymdeithasol - crynhoir gwybodaeth ynghylch asesiadau a gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir i blant ac oedolion gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau awdurdodau lleol i blant sy’n derbyn gofal; cofrestri o bobl ag anableddau; gwybodaeth am staff a gyflogir yn uniongyrchol gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol; a’r cyfrifiad Plant Mewn Angen (CIN).

Pwy yw’r defnyddwyr allweddol, a beth yw’r prif ddefnydd?

Ceir rhestr lawn o ddefnyddwyr a defnydd yn yr adran ‘Dolenni Perthnasol’.

Hysbysiad e-bost ar gyfer ystadegau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Rydym wedi lansio gwasanaeth e-bost ar gyfer ystadegau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yr ydym yn cyhoeddi. Anfonir yr e-byst ar y diwrnod cyhoeddi i’r bobl sy’n defnyddio’r ystadegau, iddynt fod yn ymwybodol o'r ffigyrau diweddaraf. Os hoffech dderbyn yr hysbysebai yma, cyslltwch â stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk. Byddwch yn derbyn ffurflen fer i ddewis pa ystadegau ac allbynnau hoffech dderbyn trwy’r e-byst.

Adborth

Rydym yn annog adborth ynghylch ein hystadegau. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, neu os ydych o’r farn nad yw’r rhestr yn adlewyrchiad digonol o’r ystod o ddefnyddwyr a defnydd, yna cysylltwch â ni ar stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk neu llenwch ffurflen adborth.