Skip to content

Cylchlythyr Tystiolaeth Cydraddoldeb - Rhifyn 13: Mehefin 2012

Dolenni perthnasol

Yn cynnwys gwybodaeth o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) ar oedran, rhyw, ethnigrwydd, crefydd ac anabledd.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Dyma'r 13eg rhifyn mewn cyfres o gylchlythyrau am ystadegau ac ymchwil cydraddoldeb.

Cyfrifiad 2011: Cyhoeddi Canlyniadau Cyntaf y Cyfrifiad

Mae canlyniadau cyntaf y Cyfrifiad (amcangyfrifon poblogaeth a thai) i’w cyhoeddi yng Ngorffennaf 2012. Bydd yr ONS yn cyhoeddi bwletin ystadegol yn dadansoddi canlyniadau allweddol i Gymru. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi Pennawd Ystadegau i gyd-daro â’r gyfres gyntaf o ddata’r Cyfrifiad i gael ei rhyddhau gan yr ONS. Bydd lansiad yn cael ei gynnal yng Nghymru ar gyfer y cyfryngau.  

Cyhoeddwyd gwybodaeth ar y data hyn a data eraill sydd i’w rhyddhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn Prosbectws Cynhyrchion Cyfrifiad ar 29 Mawrth 2012. Mae’r prosbectws hwn yn nodi pa ystadegau o Gyfrifiad 2011 y bydd yr ONS yn eu rhyddhau, a’r dyddiadau y mae’r ONS yn bwriadu eu cyhoeddi. Mae’n ateb rhai cwestiynau cyffredin am bynciau sydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr newydd yn ogystal ag i ddadansoddwyr profiadol.

Mae’r ONS wedi darparu pdf o’r prosbectws i’w lawrlwytho.

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Prosbectws Cynhyrchion Cyfrifiad

Mae dadansoddwyr Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu rhaglen o gynhyrchion gwerth ychwanegol y Cyfrifiad. Bydd y rhain yn cydategu cynhyrchion yr ONS, ac yn canolbwyntio ar ddarparu cyd-destun Cymreig ac ar grynhoi’r prif ganlyniadau i Gymru.

Cyhoeddi Diweddariadau i’r Adroddiad ar Bobl Hŷn yng Nghymru

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi wedi cyhoeddi diweddariadau i’r adroddiad ‘Pobl Hŷn yng Nghymru’, sy’n cyflwyno data ar y dangosyddion sy’n monitro hynt Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn. Dyma’r dangosyddion a ddiweddarwyd:

  • Dangosydd 1a: Canran y bobl 50+ sy’n dweud bod ofn troseddau yn effeithio’n fawr ar eu bywydau
  • Dangosydd 5: Cyfradd y bobl 65+ sy’n cael cymorth i fyw gartref, am bob 1,000 o’r boblogaeth 65+

Mae’r set gyflawn o ddata, dadansoddiad a nodiadau ar yr holl ddangosyddion ar gael ar wefan StatsWales.

Gwefan StatsWales: Pobl Hŷn yng Nghymru

Cyhoeddi ‘Data Cydraddoldeb ar gyfer Tenantiaid Tai Cymdeithasol, 2010’

Cyhoeddwyd y bwletin ar ddata cydraddoldeb tenantiaid tai cymdeithasol ar 29 Mai 2012.
Mae’r bwletin yn defnyddio data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar oedran, rhyw, ethnigrwydd, crefydd ac anabledd tenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru rhwng 2004 a 2010.

Dyma brif bwyntiau’r bwletin:

  • Mae cyfran uwch o bobl ifanc yn byw mewn tai cymdeithasol nag ym mhoblogaeth Cymru yn gyffredinol. Yn 2010, roedd tua 41 y cant o denantiaid tai cymdeithasol dan 25 oed (sydd hefyd yn cynnwys plant) o gymharu â 31 y cant ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru.
  • Fel yn y boblogaeth gyffredinol, mae’r rhaniad rhyw ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol yn amrywio yn dibynnu ar oed gyda chynnydd sylweddol yn y nifer o fenywod o gymharu â dynion yn y grŵp oedran 70 oed a throsodd, yn ôl pob tebyg am fod menywod yn gyffredinol yn byw yn hirach na dynion.
  • Yn 2009, roedd 4.1 y cant o’r holl denantiaid tai cymdeithasol yn dod o gefndiroedd du neu leiafrifoedd ethnig, yr un gyfran ag yn y boblogaeth gyffredinol. Fe wnaeth cyfran y tenantiaid tai cymdeithasol o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig gynyddu’n flynyddol rhwng 2004 a 2008 gan gyrraedd uchafbwynt o 4.6 y cant, ond ers hynny mae wedi bod yn gostwng ac yn 2010 roedd yn 3.9 y cant.
  • Yn 2010, Cristnogaeth unwaith eto oedd y grefydd fwyaf cyffredin ymysg tenantiaid tai cymdeithasol, gyda thua 57 y cant o’r tenantiaid yn y grŵp hwn. Fodd bynnag, mae’r gyfran hon wedi gostwng yn sylweddol er 2004 pan oedd bron 70 y cant o’r holl denantiaid tai cymdeithasol yn eu dosbarthu eu hunain yn Gristnogion.
  • Yn 2010, roedd cyfran uwch o denantiaid tai cymdeithasol yn anabl (39 y cant) nag ym mhoblogaeth Cymru yn gyffredinol lle’r oedd 24 y cant yn anabl.

Pwy sy’n Rhedeg Cymru? Diweddariad 2012

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi diweddaru ei adroddiad Pwy sy’n Rhedeg Cymru? ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012. Mae’n rhoi ciplun o’r rhai sydd â grym a dylanwad ym mywyd Cymru. Mae’n edrych ar ein gwleidyddion, ein prif weithredwyr a’n harweinwyr busnes i weld a ydynt yn adlewyrchu’r bobl a wasanaethir ganddynt.

Mae gwleidyddiaeth a’r sector preifat yn ddau o’r meysydd sy’n achosi’r pryder mwyaf. Mae’r rhifyn hwn o Pwy sy’n Rhedeg Cymru? yn rhoi sylw penodol i’r meysydd hyn.

Mae’r adroddiad hwn yn egluro pam fod y materion hyn yn bwysig ac yn awgrymu camau y gellir eu cymryd.

Gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod diweddariad 2012

Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r pynciau uchod cysylltwch â Sam Grant, Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru.
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: (029) 2082 3332
E-bost: stats.popcensus@wales.gsi.gov.uk