Skip to content

Gwybodaeth ranbarthol

Crynodeb o ystadegau'r economi a'r farchnad lafur ar gyfer pedair prif ranbarth economaidd Cymru. Mae'r wybodaeth yn cynnwys cyflogaeth, enillion, a nifer y busnesau.

Isod, rhestrir pedair rhanbarth economaidd Cymru ynghyd â'r awdurdodau lleol ym mhob un ohonynt:

  • Gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
  • Canolbarth Cymru: Powys a Cheredigion.
  • De-orllewin Cymru: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
  • De-ddwyrain Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Casnewydd a Chaerdydd.

Mae'r rhanbarthau hyn yn seiliedig ar ranbarthau economaidd Adran yr Economi a Thrafnidiaeth (DE&T) (sy'n cyd-fynd â rhanbarthau'r Adran Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes). Fodd bynnag, mae rhanbarthau'r DE&T yn rhannu Gwynedd rhwng Canolbarth Cymru a Gogledd Cymru, gyda Sir Feirionnydd yn y Canolbarth a'r gweddill yn rhan o'r Gogledd. Oherwydd y data sydd ar gael inni, rydym wedi defnyddio awdurdodau lleol cyfan yn hytrach na rhannu Gwynedd.