Skip to content

StatsCymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

StatsCymru

Gwasanaeth di-dâl yw StatsCymru sy'n caniatáu i chi weld, defnyddio, creu a lawrlwytho tablau o'r data swyddogol mwyaf manwl sydd ar gael am Gymru.
Gwefan StatsCymru

Am ragor o wybodaeth ar sut i ddefnyddio tablau StatsCymru, trowch at yr adrannau ar “Tablau” a’r “Rhestr Eitemau” yn Cymorth. Mae cymorth ar ddefnyddio’r cyfleuster newydd ar gyfer mapio data ar gael hefyd o dan “Mapiau”. Hefyd mae yna diwtorialau ar gael i arddangos alluoedd rhyngweithiol y system.

Gallwch ddod o hyd i dablau drwy ddefnyddio'r dudalen Adroddiadau i bori drwy'r ffolderi pynciau neu drwy ddefnyddio'r cyfleuster chwilio.

Hefyd mae yna borthiant newyddion RSS (dolen allanol) ar gael, sy'n eich galluogi i weld pryd mae'r wefan wedi ychwanegu cynnwys newydd.

Gall defnyddwyr uwch hefyd gofrestru (dolen allanol) er mwyn creu eu proffilau eu hunain, cynllunio eu hadroddiadau eu hunain, a'u cadw.

Mae data yn cael eu hychwanegu at StatsCymru drwy'r adeg.