Skip to content

Gwasanaeth Ieuenctid, 2010-11: Penawdau Canlyniadau Cychwynnol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 1 Tachwedd 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae'r ystadegau pennawd yn cynnwys ffigurau am aelodau gwasanaeth ieuenctid, achrediadau, projectau a gweithlu ar gyfer Cymru am y cyfnod Ebrill 2010 - Mawrth 2011.

Y pwyntiau allweddol o'r datganiad diweddaraf yw:

  • Roedd dros 115,000 o bobl ifanc yn aelod o'r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru. Mae ffigwr hwn yn cynrychioli 19 y cant o'r poblogaeth rhwng 11 a 25 mlwydd oed yng Nghymru;
  • Derbyniodd tua 10,400 o bobl ifanc ganlyniad achrededig cenedlaethol yn ystod y flwyddyn, yn cynrychioli 9 y cant o aelodau y Gwasanaeth Ieuenctid.
  • Ym mis Mawrth 2011, roedd 943 o staff rheoli a chyflwyno y Gwasanaeth Ieuenctid cyfartal ag amser llawn (CALl) yn gweithio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Roedd 10 y cant yn rheolwyr a 90 y cant yn gweithio mewn swyddi cyflwyno gwaith ieuenctid.

Nodwch bydd y Datganiad Ystadegol hwn yn cynnwys data pennawd o’r arolwg 2010-11 yn unig, er mwyn galluogi mwy o amser ar gyfer dilysiad. Bydd bwletin ystadegol pellach yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Rhagfyr 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')