Skip to content

Anafusion Ffyrdd Cofnodedig Heddlu, Chwarter 1 2012 (Dros dro)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Anafusion Ffyrdd yng Nghymru a gofnodwyd yr Heddlu: Amcangyfrifon Chwarterol Dros Dro Chwarter 1af 2012 a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 7 Awst 2012 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae Amcangyfrifon dros dro yn dangos yn ystod chwarter Mawrth 2012, yng Nghymru cofnodwyd bod:

  • 27 o anafusion ffyrdd wedi eu lladd, 7 y cant yn llai nag yn chwarter Mawrth 2011,
  • 216 wedi eu hanafu'n ddifrifol, 8 y cant yn llai nag yn chwarter Mawrth 2011,
  • 1,804 fel mân anafiadau, 7 y cant yn llai nag yn chwarter Mawrth 2011.

Wrth gymharu'r 12 mis diweddaraf, hynny yw Ebrill 2011 i Fawrth 2012, gyda'r cyfnod blaenorol o 12 mis, Ebrill 2010 i Fawrth 2011, mae’n dangos bod:

  • Holl anafiadau ar y ffyrdd i lawr 7 y cant, ac o fewn y cyfanswm hwn
  • Roedd y nifer a laddwyd 28 y cant yn uwch,
  • Roedd nifer y rhai a anafwyd yn ddifrifol 6 y cant yn uwch,
  • Roedd y nifer â mân anafiadau 9 y cant yn is.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

6 Tachwedd 2012