Skip to content

Anafusion Beicwyr Pedal, 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd bwletin ystadegol o’r enw ‘Anafusion Beicwyr Pedal, 2011’ ar 26 Mehefin 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r pwyntiau allweddol yn y bwletin hwn yn cynnwys y materion canlynol ar gyfer holl anafusion beicwyr pedal:

  • Yn 2011 cynrychiolodd anafusion beicwyr pedal 9 y cant o’r anafusion traffig ffordd wedi marw neu anafu’n ddifrifol (KSI) a 5 y cant o’r mân anafusion yng Nghymru.
  • Yn 2011 roedd 11 o farwolaethau beicwyr pedal, 107 anafusion difrifol a 403 mân anafusion beicwyr pedal.
  • Bu cynnydd sydyn yn anafusion KSI yn ystod 2011 ar gyfer beicwyr rhwng 30 a 49 oed.
  • Dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r gostyngiad yng nghyfanswm anafusion beicwyr pedal wedi bod fwyaf ymhlith plant.
  • Yn ystod yr wythnos, mae anafusion beicwyr pedal ar ei uchaf ar ddiwedd y diwrnod ysgol a’r diwrnod gwaith; mae uchafbwynt is yn y boreau yn ystod y cyfnod pan mae pobl yn beicio i’r gwaith neu ysgol.
  • Ers 2002 mae ychydig o dan un ymhob pump anafusion beicwyr pedal wedi digwydd yn awdurdod lleol Caerdydd.

Mae’r pwyntiau allweddol yn y bwletin hwn yn cynnwys y materion canlynol ar gyfer holl anafusion beicwyr pedal sy’n blant (0-15 oed):

  • Bu gostyngiad yn anafusion beicwyr pedal sy’n blant o 46 y cant, o 214 yn 2002 i 115 yn 2011.
  • Bu gostyngiad yng nghyfran beicwyr pedal KSI 0-15 oed o 37 y cant o holl anafusion beicwyr KSI yn 2002 i 18 y cant yn 2011.
  • Digwyddodd y mwyafrif o anafusion beicwyr plant rhwng hanner dydd a 17:00 o’r gloch, gydag uchafbwynt yn ystod, ac yn fuan ar ôl yr amser pan mae plant yn gadael yr ysgol.
  • Ym Mlaenau Gwent mae anafusion beicwyr pedal sy’n blant yn cyfrif am 64 y cant o holl anafusion beicwyr pedal ers 2002.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mehefin 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')