Skip to content

Teithio Personol, 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Deithio Personol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 20 Mawrth 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Y prif bwyntiau o'r bwletin diweddaraf yw:
  • Mae'r Arolwg Teithio Cenedlaethol (NTS), ar gyfartaledd dros y ddwy flynedd 2008 a 2009, yn amcangyfrif bod ar gyfartaledd tua 1,000 o deithiau yn cael eu gwneud yng Nghymru, y person, y flwyddyn, gyda phobl yn teithio pellter cyfartalog o bron i 135 milltir yr wythnos.
  • Mae tua dwy ran o dair o'r teithiau yn cael eu gwneud naill ai mewn car neu fan; 22 y cant fel teithiau cerdded a’r 11 y cant oedd yn weddill ar gyfer pob dull arall o deithio.
  • Mae taith car personol ar gyfartaledd yn 9 milltir o hyd, a thaith gerdded ar gyfartaledd yn 0.8 milltir.
  • Mae taith cymudo neu fusnes ar gyfartaledd yn 11 milltir; mae taith siopa ar gyfartaledd yn 5 milltir, taith addysg (neu hebryngwr addysg) daith yn 3 milltir tra bod taith i ymweld â ffrindiau ar gyfartaledd yn 8 milltir a theithiau hamdden ar gyfartaledd yn 10 milltir o hyd. (Rannu hyd cyfartalog yn nhablau 6.2 gyda’r nifer o deithiau yn nhabl 6.1)
  • Yn ôl yr Arolwg o'r Llafurlu yn 2011, dim ond ychydig dros bedwar o bob pump o bobl yn defnyddio car, fan neu fws mini fel eu prif ddull o deithio i'r gwaith, gydag un o bob deg o bobl yn dewis cerdded.
  • Mae’r gyfran o tua phedwar o bob pump o bobl sy’n defnyddio car ag ati i deithio i'r gwaith wedi bod yn sefydlog am y 10 mlynedd ers 2001; ac mae defnydd o geir gan ddynion a merched wedi bod yn cydgyfeirio tuag at y cyfartaledd dros y cyfnod hwn.
  • Yr amser cyfartalog a gymerir i deithio i’r gwaith yng Nghymru yw 21 munud. Mae hyn yn amrywio o gyfartaledd o 12 munud ar gyfer pobl sy’n cerdded fel eu prif ddull o deithio i'r gwaith, hyd at 50 munud ar gyfer y rhai sy'n teithio i'r gwaith ar y trên.
  • Yn 2010, canolrif cyflog wythnosol gros cyfartalog y gweithwyr llawn amser sy'n teithio i'r gwaith mewn car oedd £460 y wythnos, o gymharu â £490 ar gyfer y rhai sy'n teithio gan ddefnyddio beic, a £330 y wythnos a £320 ar gyfer y rhai sy’n teithio ar y bws a cherdded yn y drefn honno.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')