Skip to content

Ystadegau Trafnidiaeth Cymru 2010 - Pennod 11: Trafnidiaeth Awyr

Dolenni perthnasol

Cynlluniwyd i gasglu ynghyd gwybodaeth am drafnidiaeth o nifer o ffynonellau ac i gynnwys nifer o flynyddoedd.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar drafnidiaeth awyr, a baratowyd gan Lywodraeth Cymru, ar 14 Mehefin 2011 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae ystadegau ar drafnidiaeth awyr yn cynnwys data hyd at 2010.

Dyma bwyntiau allweddol y cyhoeddiad diweddaraf:

  • Yn 2010 roedd tua 26,000 o symudiadau awyrennau ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, 5 y cant yn is nac yn 2009.
  • Yn 2010, bu lleihad o 14 y cant yng nghyfanswm y teithwyr sydd yn defnyddio Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, i 1.40 miliwn.
  • Rhwng 2009 a 2010 bu lleihad o  84 y cant yn y llwythi cafodd eu trin yn Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, i ddim ond 28 tunnell.
  • Yn 2010, teithiodd 42 y cant o deithwyr domestig rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Chaeredin.
  • Yn 2010, defnyddiodd tua 110,000 yn llai o deithwyr Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i deithio yn ôl ac ymlaen o feysydd awyr arall yn y DU, nac yn y flwyddyn gynt. Mae hyn yn cyfrif am ostyngiad o 29 y cant. Roedd y lleihad mwyaf yn y nifer sydd yn teithio yn ôl ac ymlaen i Gaeredin, gyda thua 50,000 yn llai o deithwyr.
  • Yn ystod 2010, roedd Sbaen a'r Ynysoedd Dedwydd yn cyfrif am 43 y cant o'r holl deithwyr awyr rhyngwladol oedd yn gadael a chyrraedd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
  • Yn 2010, defnyddiodd tua 120,000 yn llai o deithwyr Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i deithio yn ôl ac ymlaen i gyrchfannau rhyngwladol nag yn y flwyddyn gynt. Mae hyn yn cyfrif am ostyngiad o 10 y cant. Roedd y lleihad mwyaf yn y nifer oedd yn teithio yn ôl ac ymlaen i ganol Sbaen, lle'r oedd tua  114,000 yn llai o deithwyr.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mai 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')