Skip to content

Marwolaethau Traffig y Ffyrdd a Adroddwyd i'r Heddlu, 2010

Dolenni perthnasol

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r ffynonellau a dulliau a ddefnyddir i lunio'r ffigurau ar ddamweiniau ac anafusion ffyrdd ac yn adolygu ansawdd y ffigurau.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar ‘Anafusion Ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu yng Nghymru: Marwolaethau yng Nghymru 2010’ a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 17eg o Chwefror 2011 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan awdurdod ystadegau’r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Dyma'r pwyntiau allweddol (gan ddefnyddio'r ffigyrau diwygiedig) o'r datganiad diweddaraf:

  • Yn 2010, roedd marwolaethau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru ar ei isaf (89) ers 1968 pan gafodd ffigurau ar wahân ar gyfer Cymru eu llunio gyntaf.

Wrth gymharu cyfartaledd 94-98 a 2010;

  • Bu gostyngiad o 12 y cant ym marwolaethau beicwyr modur a defnyddwyr moped , tra bu gostyngiad o 69 y cant, 74 y cant a 66 y cant mewn marwolaethau ar gyfer cerddwyr, beicwyr pedal a defnyddwyr ceir yn y drefn honno.
  • Roedd gostyngiad o 71 y cant yn nifer y marwolaethau plant. Gwelwyd gostyngiad o 47 y cant ym marwolaethau ymhlith pobl ifanc, rhwng 16 a 25; a gwelwyd gostyngiad o 61 y cant yn rhai ar gyfer pobl hŷn, 26 oed a throsodd.
  • Roedd gostyngiad o 54 y cant yn nifer y marwolaethau dynion a gostyngiad o 71 y cant yn nifer y marwolaethau benywaidd.

Nodyn Adolygu

Mae'r Datganiad Cyntaf sydd ynghlwm yn cynrychioli ail adolygiad o'r data hyn. Mae'r amcangyfrif rhagarweiniol a gyhoeddwyd ar 17 Chwefror 2011 yn dangos bod yna 89 o farwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru yn ystod 2010. Roedd hyn yn diwygio i fyny at 95 o farwolaethau ar gyfer yr amcangyfrif terfynol a gyhoeddwyd ar 25 Mai 2011. Mae'r ffigurau wedi cael eu diwygio ar 3 Awst 2011 i lawr i 89 eto. Y rheswm dros yr adolygiad diweddaraf o 95 i 89 yw bod Heddlu De Cymru wedi sefydlu bod chwech o'r marwolaethau yn eu hardal yn ganlyniad o achosion naturiol, yn hytrach na'r ddamwain traffig cysylltiedig. Roedd y bobl sy'n gysylltiedig i gyd yn yrwyr ceir a nid oedd unrhyw berson arall yn rhan o unrhyw un o'r digwyddiadau hyn.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd